Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y teimlai'r arweinwyr fod yn ddyledswydd arnynt ddarparu addysg na chynhwysai egwyddorion unrhyw blaid grefyddol neillduol.

Hefyd, yr oedd un ysgol yn annigonol i gyfarfod ag angen y gymdogaeth. Yn nechreu'r flwyddyn 1868 gwerthwyd Ysgol Bont Ynys Galch am £325, ac ar y 30ain o Ionawr, cynhaliwyd cyfarfod yng nghapel Salem i egluro'r safle. Gwnaed hynny gan Mr. R. Rowland. Yr oedd y tir tuag at adeiladu ysgol newydd wedi ei sicrhau gan Mr. David Williams. Rhwng yr arian a gawsant am yr hen ysgol, a rhôdd y Llywodraeth tuag at adeiladu un newydd, yr oeddynt yn fyr o £450 tuag at gyrraedd yr amcan, a chodi adeilad gwerth £1,200. Cafwyd addewidion yn rhwydd yn y cyfarfod. Ymhlith y cyfranwyr yr oedd y Parch. W. Ambrose, £10; Mri. J. H. Williams, £20; William Jones, chandler, £10; Mrs. Jones, eto, £10; Mri. Thomas Parry, £10; Peter Jones, surveyor, £5; John Roberts y Felin, £5; John Lewis, plumber, £10; Capten G. Griffiths, £10 10s.; Capten Thomas Jones, shipper, £5; y Parch. Thomas Owen, £5; Mri. R. Rowland, £5; Daniel Williams, £5; Owen Hughes, £2; A. Ellis, £5; Richard Hughes, £4.

Aed ymlaen i adeiladu ysgol newydd a gynhwysai 274 o blant. Yn y cyfamser, addysgid y plant yn y Neuadd Drefol, hyd orffeniad yr ysgoldy newydd yng Ngorffennaf, 1869.

YR YSGOL GENEDLAETHOL.

Adeiladwyd 1857
Eangwyd .1868


Prif Athrawon. Mr. Malcolm, Mr. Griffiths, Mr. Maddern, Mr. Richard Grindley, (1863—78).
Adran y Babanod.—Miss Hawkridge (1868—70), Miss K. Jones (1871—76), Miss E. Parry (1876—77).
Ysgrifennydd.—Mr. John Thomas (1857—78).


Pan ail agorwyd Ysgol Frytanaidd Bont Ynys Galch, ni fynnai'r Eglwyswyr wneud dim â hi, a phenderfynasant edrych am fan cyfleus a gyfarfyddai â