Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/120

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YSGOLION Y BWRDD.

YSGOLION SNOWDON STREET.

Prif Athrawon.—Mr. Richard Grindley, 1878-93; Mr. Evan Evans, 1893.
Adran y Babanod.—Miss Mary Evans, 1878—86; Miss A. J. Richards, 1886—92; Miss Anne Williams, Ionawr, 1893.

YSGOL CHAPEL STREET.

Prif Athrawon.—Mrs. Katherine Humphreys, 1878—79; Miss Ellis, 1879—81; Miss A. Griffith, 1881.
Adran y Babanod.—Miss Anne Williams, 1887—92.

Yr Ysgrifenwyr.—Mr. John Thomas, 1878—87; Mr. W. Morris Jones, 1887—1903.

Er mabwysiadu'r Ddeddf, a sefydlu Bwrdd Addysg, nid oedd yr anhawsderau oll wedi eu goresgyn.

Gan fod dyled o uwch law £300 ar yr Ysgol Frytanaidd, ni dderbyniai'r awdurdodau hi. Yr oedd y chwe mis rhybudd wedi dyfod i fyny yn niwedd 1877, a'r ysgol yn gauedig, a'r un Genedlaethol mewn canlyniad wedi ei gorlenwi.

Ar y 14eg o Chwefrol, 1878, mewn cyfarfod a gynhaliwyd i ystyried y sefyllfa, penderfynwyd codi treth wirfoddol o swllt yn y bunt tuag at ddiddymu'r ddyled. Ond gan y cymerai casglu'r dreth beth amser, trefnodd y Bwrdd Ysgol i wahanu'r bechgyn a'r genethod oddi wrth eu gilydd, trwy agor ysgol i'r genethod yn y Neuadd Drefol ar y 4ydd o Fawrth—y bechgyn i aros yn Ysgol Snowdon Street. Yr athrawon yn y Neuadd Drefol oeddynt: Mrs. Katherine Humphreys, Miss A. Williams, a Miss Jane Roberts.

Ni bu raid i'r plant aros yn hir yn y Neuadd cyn i Ysgol Chapel Street gael ei hail agor yn Board School. Gwnaed hynny ar yr 28ain o Hydref, 1878. Bu Mrs. Humphreys yn brif athrawes ynddi hyd y 7fed o Fawrth, 1879, pryd y dilynwyd hi gan Miss Ellis. Ymadawodd hithau ar y 10fed o Ionawr, 1881, pryd y cymerwyd ei lle gan Miss A. Griffith, yr hon a leinw'r swydd hyd heddyw. Yn 1882 gwnaed yr Infant School bresennol. Yn flaenorol i hynny, mewn class-room yr