Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addysgid y babanod. Athrawes y babanod ar y pryd ydoedd Miss Mary Evans, a pharhaodd yn y swydd hyd 1886, pryd y cymerwyd ei lle gan Miss A. J. Richards (Mrs. Pierce Roberts yn bresennol). Yn niwedd 1892 ymadawodd Miss Roberts, a phenderfynodd y Bwrdd ar fod i fabanod y ddwy ysgol—Snowdon Street a Chapel Street—i gael eu dysgu yn Ysgol y Babanod Snowdon Street, o dan ofal Miss Williams.

Yng ngwyliau'r haf, 1893, bu farw Mr. Richard Grindley, prifathro Ysgol Snowdon Street, wedi bod yn athraw ffyddlon yno am ddeng mlynedd ar hugain. Ym Medi, 1893, penodwyd Mr. E. Evans, prifathro Ysgol y Bwrdd, Cwmdâr, i fod yn olynydd iddo. Erys ef yn ei swydd hyd heddyw, yn fawr ei barch gan y plwyf, ac iddo air da gan ei gydnabod oll.

Nid oes ond un digwyddiad o bwys wedi cymeryd lle yn ddiweddar ynglyn âg addysg ym Mhorthmadog, sef troi Ysgol Snowdon Street yn Ysgol Uwch-Safonnol yn y flwyddyn 1909. Tylododd hyn Ysgolion Tremadog a Borth y Gest yn fawr, ac nid heb wrthwynebiad cryf yr anfonwyd plant y lleoedd hynny iddi.

YR YSGOLION PRESENNOL.

Ysgol Uwch-Safonnol Snowdon Street. Prifathraw, Mr. Evan Evans, a phedwar o athrawon trwyddedig. Cyfartaledd y presenoldeb, 170. Rhif ar y llyfrau, 194.

YSGOL CHAPEL STREET.

Prifathrawes, Miss A. Griffiths, a chwech o athrawon cynhorthwyol. Cyfartaledd y presenoldeb, 229. Rhif ar y llyfrau, 259.

YSGOL SNOWDON STREET (y Babanod). Prifathrawes, Miss A. Williams, a phedair o athrawesau cynhorthwyol. Cyfartaledd y presenoldeb, 181. Rhif ar y llyfrau, 226.