Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/122

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

YR YSGOLION UWCH-RADDOL.

Yr Ysgol Uwch-Raddol gyntaf y crybwyllir am dani ym Mhorthmadog ydyw Ysgol Misses Anne a Mary Rees—merched Dr. William Rees (Gwilym Hiraethog). Cynhelid yr ysgol yn y tŷ agosaf i gapel Salem,—siop Mr. W. Morris, fferyllydd, yn awr. Byr fu arhosiad y Reeses ym Mhorthmadog, ac ni pharhaodd yr ysgol ond am tua thair blynedd. Yr oedd hynny yn y 50's. Ystyrid yr ysgol hon yn un ragorol i ferched, a bu amryw o ferched mwyaf diwylliedig y cyfnod ynddi, yn eu plith Mair Eifion, a'r ddwy chwaer, Mrs. Capten J. Jones, y Borth, a Mrs. S. P. Owen, Porthmadog—y ddwy ddiweddaf eto'n fyw.

Yn y 60's symudodd Mr. George Davies, a gadwai Ysgol Ramadegol yn Nhremadog, i fyw i Borthmadog, a chariai yr ysgol ymlaen yn yr ystafell lle mae swyddfa argraffu Mri. Lloyd a'i Fab yn awr; ond symudodd oddi yno i dŷ yn y Park Square. Ystyrid hon hefyd yn ysgol ragorol, a throdd allan wyr grymus.

YSGOL LLWYN ONN.

Yr Athrawon.—Mrs. Davies, Mr. Davies, Mr. J. Hamer Lewis, B.A., 1877—88.

Wedi ymadawiad Misses Rees agorwyd Ysgol Llwyn Onn gan Mrs. Davies, priod Mr. Edward Davies, llech fasnachydd. Bwriedid ar y cyntaf i'r ysgol fod yn un i ferched, a pharhaodd felly tra bu Mrs. Davies yn ei chadw. Dilynwyd hi gan Mr. Davies, a throwyd yr ysgol yn un Ramadegol. Hoff feusydd Mr. Davies oedd Groeg a Lladin, a chodwyd yr ysgol i gryn sylw. Wedi ymadawiad Mr. Davies daeth Mr. J. Hamer Lewis, B.A., i'w chynnal, a daeth yr ysgol yn boblogaidd a llwyddianus. Derbyniodd llawer o'r rhai sydd erbyn heddyw wedi esgyn i safleoedd pwysig eu haddysg uwch-raddol yn yr ysgol hon.