Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/142

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

arweinydd; ail, £10. Cor Aberdyfi yn unig a ymgeisiodd, a chafodd y wobr. or Meibion, heb fod o dan 25 na thros 40 o rif, Cydgan y Bugeiliaid" (D. Jenkins), a "Nyni yw'r Meibion Cerddgar" (Gwilym Gwent). Gwobr gyntaf, £15, a thlws arian i'r arweinydd; ail £5. Goreu, Cor Dolgellau arweinydd, Mr. R. Davies; ail Cor Abergynolwyn: arweinydd, Mr. David Thomas.

Cyfansoddi "Anthem Gynulleidfaol." Gwobr, £5. Alaw Ddu.
Cyfansoddi "Unawd i Fâs." Gwobr, £3. Mr. David Parry, Llanrwst.

Cynhaliwyd yr Orsedd ar betryal Tremadog, am naw o'r gloch, ddyddiau Iau a Gwener. Bardd yr Orsedd, Clwydfardd. Ymhlith y rhai a urddwyd yn feirdd yr oedd Tryfanwy, Bryfdir, Gwilym Deudraeth, Dwyryd, Tryfanydd, Eifion Wyn, Isallt, Amaethon, a Madog.

Gwasanaethid gan Gor yr Eisteddfod, dan arweiniad Mr. John Roberts, y Felin, a cherddorfa yn rhifo 36. Y prif ddatganwyr cyflogedig oeddynt: Miss Mary Davies, Miss Hannah Davies, Miss Eleanor Rees, Eos Morlais, Mr. Maldwyn Humphreys, Mr. Lucas Williams, Mr. John Henry, Mr. David Hughes. Canu Pennillion: Eos y Berth. Telynor: Ap Eos y Berth. Cyfeilwyr: Mri. John Williams, Caernarfon, a W. T. Davies, Porthmadog.