Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/143

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VII.
Y CYMDEITHASAU.

Y Rhai Fu—Y Rhai Sydd.

"Gellir darllen hanes gwlad oddiwrth ei Chymdeithasau."

"God has made you social and progressive beings. It is your duty, then, to associate yourselves and to progress as much as is possible in the sphere of activity in which you are placed by circumstances, and it is your right to demand that the society to which you belong shall not impede you in your work of association and of progress, but shall help you in it and supply you with the means of association and of progress."—MAZZINI.

Y CYMDEITHASAU A FU.

Cymdeithas Eifionnydd er Cospi Drwg-weithredwyr.
Sefydlwyd 1820.

Trysorydd, Owen Griffith, Ysw., Cefn Coch. Ysgrifennydd, Ellis Owen, Ysw., Cefn y Meusydd. Gan fod adroddiad ac un o hysbyslenni'r Gymdeithas hon am y flwyddyn 1834 yn fy meddiant, ac na bu'r manylion am dani, hyd y sylwais i, yn argraffedig mewn na llyfr na chylchgrawn, dodaf hwn i mewn yma, gan fod prif wyr Porthmadog yn noddwyr iddi. Wele'r hysbysiad:

Yr ydym yn hysbysu
Ein bod ni, y rhai sydd a'n 'henwau isod, wedi cyd-uno i ddilyn yn egniol y moddion cyfreithlawn i gospi pawb a ddygant, neu a ddrygant ein Heiddo, a'n Meddiannau. Ac fel y byddo i ni gael ein bwriad cyfiawn yn mlaen yn fwy effeithiol, yr ydym wedi darparu ac ymrwymo i dalu y Gwobrau canlynol, i bwy bynag a fyddo yn foddion i ddal a chospi yr hwn neu y rhai a wnelont y Drygau isod:—