Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/163

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Bu yn rhodio llwybrau union
Gyda choesau ceimion iawn.

Poor Wil! adgofion erys,
Am ei ddull a'i hynod wedd;
Lliaws deithiant tua'r Ynys,
I gael golwg ar ei fedd;
Un Wil Elis gadd ei eni,
Hwnnw weithian aeth o'n plith;
Gwag yw hebddo—am ei golli
Teimla'r ardal drwyddi'n chwith.

Cysga Wil—ond paid a chwyrnu
Llecha'n dawel, yr hen frawd;
Gorwedd heddyw 'rwyt mewn gwely,
Lle mae'r bonedd fel y tlawd;
Pan y cawn dy weled eto,
Dyfod wnei ar newydd wedd;
Yna bydd dy gorff afrosgo
Wedi ei buro yn y bedd.


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Ambrose (Emrys)
ar Wicipedia

EMRYS (William Ambrose) (1813—1873).—Pregethwr, bardd, a llenor o nôd. Ganwyd Emrys yng ngwestŷ'r Penrhyn Arms,—man a fu wedyn yn gartref cyntaf i Goleg Prifysgol Gogledd Cymru, ar y cyntaf o Awst, 1813. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadegol Bangor. Dygwyd ef i fyny'n draper, a threuliodd wyth mlynedd mewn masnachdai yn Lerpwl a Llunden. Yn 1836, dychwelodd i Fangor, heb benderfynu ar gyfeiriad ei fywyd. Aeth yn gyfaill i Caledfryn ar daith" trwy eglwysi Annibynol Lleyn ac Eifionnydd; ymwelsant â Phorthmadog. Ceisiwyd cyhoeddiad ganddo, a rhoddodd un. Cerddodd yr holl ffordd o Fangor i Borthmadog i hwnnw. Hoffodd yr eglwys ef, a cheisiodd ganddo aros yn fugail arni; yntau'n anniben i gydsynio a foddlonodd i flwyddyn o brawf "; ond parhaodd honno hyd ddiwedd ei oes. Ordeiniwyd ef yn weinidog Salem ar y 7fed o Ragfyr, 1837. Meddai ar holl anhebgorion gweinidog llwyddiannus. Pregethai'n dda ac yn goeth; ac ymwelai'n rheolaidd, nes ennill iddo'i hunan barch ac anwyldeb ei holl ddeiliaid. Yr oedd yn un o'r dynion mwyaf amlochrog ei ddoniau a fagodd Cymru. Yr oedd yn arweinydd llwyddiannus mewn cyfarfodydd llen-