1875, yn 65 oed, a chladdwyd ef ym mynwent Ynyscynhaiarn. Ceir ysgrif helaeth arno yn y Cymru, Cyf. xxix., tud. 189. Canodd Cynhaiarn farwnad iddo, a dywedir fod honno'n ddarluniad byw o hono; ac yn engraifft dda o allu'r awdwr yn y cyfeiriad hwn, pe cawsai'r awen ei rhyddid. Wele ddetholiad o'r pennillion:—
Beth yw'r tristwch? Mae Wil Elis,
Yr hen fachgen llonna' erioed,
Wedi marw o'r bronchitis,
Pan yn bump a thrigain oed;
Yntau drengodd megis eraill,
Ond nid testyn syndod yw,
Pawb adwaenent yr hen gyfaill,
Synnent sut yr oedd yn byw. '
Roedd Rhagluniaeth yn ei gofio,
Gan ei fwydo yn ddifêth,
Cafodd lety'n nodded iddo
Er na thalodd rent na threth;
Mewn hen adail oedd yn ymyl
Cafodd gysgu yn y gwair;
Nid oedd yno fuwch na cheffyl,
Mwy na'r Port ar ddiwrnod ffair.
Mewn Eisteddfod gyda'r Beirddion,
Byddai'n gwisgo ruban glas,
Adeg Lesciwn byddai'n gyson
Yn areithio gyda blas;
Bu yn dadleu nerth ei esgyrn
Dros iawnderau bach a mawr;
Collodd Lib'rals un o'r cedyrn
Pan gadd Wil ei dorri 'lawr.
Byddai'n myned i'r addoldy,
Weithiau i'r Capel weithiau i'r Llan;
Agorai'i geg a chauai 'lygaid,
Ac fe chwyrnai dros y fan;
Cafodd lawer blasus bwniad
Yn ei wyneb, draws ei gefn;
Pan ddeffroai rhoi ochenaid
Yna chwyrnai'n uwch drachefn.
Os arwyddai ffurf ei wyneb
Fod yn Wil ychydig wall,
Ei gyfrwysdra oedd ddihareb,
Ei ffraethineb oedd ddiball;
'Roedd yn onest ac yn ffyddlon,
Tystion i'w gywirdeb gawn;