Mewn eisteddfodau talaethol a lleol ennillodd liaws o wobrau, yn eu plith tri englyn, "Yr Aelwyd," yn Lerpwl, 1869; yn Harlech ar "Amddiffyniad Castell Harlech"; yn Lerpwl, 1875, "Y Beibl Cymraeg "; yn Ffestiniog, 1883, Yr Archddeacon Prys"; ac yn Eisteddfod y Llechwedd, 1886, ar "Mr. Thomas Jones y Rhosydd." Gresyn na chyhoeddid ei weithiau, neu ddetholiad o honynt. Y mae llawer o'i gyfansoddiadau i'w cael yn Y Geninen, ac yng nghyhoeddiadau Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Hanes trist ac ansicr yw'r hanes diweddaf am dano. Gadawodd Ddyffryn Madog tua diwedd y flwyddyn 1894, gan gyfeirio ar draws Gwynedd a Phowys—ond beth ddaeth o hono ar ol hynny, ni wyddis. Gellir dweyd am dano, fel y dywedodd efe ei hun am Risiart Ddu o Wynedd:—
Ei genedl hoffai'i geinedd
. . . . . . Pwy drwsia'i fedd?
HOLLAND, SAMUEL (1803—1892).—Mab i Samuel Holland, Y.H., Toxteth Park, Liverpool. Derbyniodd ei addysg gyda modryb iddo; yna yn Ysgol Elfennol Bedford Street; Ysgol y Morafiaid yn Fairfield, ger Manchester; Ysgol Uwch-raddol yn Lancaster, ac yn ddiweddaf bu am ddwy flynedd mewn ysgol yn yr Almaen. Ar ei ddychweliad oddi yno bu am gyfnod yn swyddfa ei dad yn Lerpwl. Yn 1821 daeth i Ffestiniog, i arolygu Chwarel Rhiwbryfdir, oedd ar brydles gan ei dad. Y mae hanes ei daith gyntaf i Ffestiniog yn ddyddorol. Daeth mewn steamer i Bagillt, gan gymeryd y goach oddi yno i Dreffynnon, a cherdded i Lanelwy. Wedi lletya yno dros nos, cerdded tranoeth trwy Lanrwst i Benmachno; aros yno dros y nos, a chwblhau ei siwrne tranoeth. Yn 1825 gwerthodd ei dad Chwarel y Rhiw i'r "Welsh Copper, Lead and Slate Co.," gan gadw iddo ef a'i feibion ran uchaf y ffarm, ac agor chwarel yno, yr hon a adwaenid fel "Chwarel Holland." Efe a fu'n brif offeryn i gario allan gynllun a drychfeddwl Mr. Madocks o wneud Rheilffordd Gul o Borthmadog i Ffestiniog. Gwnaeth hynny gyda chynhorthwy Mri. Henry Archer a James