Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/172

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Spooner, yr ail yn un o'r rhai mwyaf blaenllaw i roddi i lawr sylfaen masnach a chynnydd Porthmadog. Efe oedd Cadeirydd cyntaf Bwrdd Gwarcheidwaid Undeb Ffestiniog swydd a lanwodd am flynyddoedd. Efe, gyda Capten Richard Pritchard, ac eraill, a sefydlodd y "Marine Mutual Ship Assuranc eCo.. Ltd.," a bu a rhan yn ffurfiad y Merionethshire Steamship Co., Ltd.," a'r " Portmadoc Steam Tugboat Co., Ltd."

Yr oedd yn Ynad Heddwch ac yn Is-Raglaw Siroedd Meirion ac Arfon. Ar farwolaeth Mr. David Williams, yn 1869, dewiswyd ef yn aelod seneddol yn ei le. Wele'i etholiadau:—

1870. Ion. 17.

Holland, S. (R.) .................... 1610
Tottenham, Col. C. S. (T.) ........... 963

1874. Chwef. 2
Holland, S., yn ddiwrthwynebiad.

1880. Ebrill,

Holland, S. (R.) ................. 1860
Dunlop, A. M. (T.) ............... 1074


Bu farw yn ei breswylfod yng Nghaerdeon, ar y 27ain o Ragfyr, 1892, bron yn 90ain mlwydd oed.(Cymru, Cyf. v. 187).

HUGHES, HUGH (1813—1898).—Capten, pregethwr, ac amaethwr. Mab ydoedd i Robert a Margaret Hughes, Penrhydfechan, Morfa Bychan. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1813. Gôf oedd ei dad wrth ei alwedigaeth; ond yn amser adeiladu'r Morglawdd trodd i weithio gwaith maen, a bu am gyfnod yn gontractor o bwys ym Mhorthmadog. Bu Hugh Hughes, am y saith mlynedd cyntaf o'i oes, dan ofal ei nain. Hynny o addysg a gafodd ydoedd gyda John Wynne, yn Nhremadog, ac yn ddiweddarach gyda William Griffith, yn dysgu morwriaeth. Dechreuodd forio'n fore, a bu mewn enbydrwydd a llongddrylliau. Dewiswyd ef yn flaenor ym Mrynmelyn. Derbyniwyd ef yn aelod o'r Cyfarfod Misol ac yn bregethwr, ar yr un adeg, mewn Cyfarfod