Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/173

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Misol yn Nhremadog. Bu ganddo ran flaenllaw yn sefydliad yr achos Methodistaidd ym Mhorthmadog. Ymddyrchafodd i fod yn gapten a bu'n pregethu llawer yn y porthladdoedd tra'n morio. Yn y flwyddyn 1847, priododd Miss Catherine Jones, merch ieuengaf Mrs. Jones, Gellidara, Lleyn. Gadawodd y môr, ac ymsefydlodd yno gyda hi, gan ymroddi'n llwyrach i grefydd. Yr oedd yn llwyr—ymwrthodwr a gwrth—ysmygwr selog. Yr oedd yn bregethwr cymeradwy ac ym meddu ar gymeriad tyner. Bu farw Chwefrol 15fed, 1898. Ysgrifenwyd cofiant iddo gan y diweddar Barch. John Jones, F.R.G.S., argraffedig gan E. W. Evans, Dolgellau.

Odiaeth fel cadben ydoedd,—ond cafwyd
Mai cyfyng ei gylchoedd;
Moroedd gras yn addas oedd
Ei nwyfiant—dyna'i nefoedd.
Y Parch. John Jones, Brynrodyn.



Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
John Williams (Ioan Madog)
ar Wicipedia

IOAN MADOG (John Williams, 1812—1878).—Gôf a bardd, mab i Richard ac Ellen Williams, Tremadog. Tua'r flwyddyn 1811 symudodd ei rieni i'r Bont Newydd, ger Ruabon, ac yno, ar y 3ydd o Fai, 1812, y ganwyd Ioan Madog. Yn 1822 symudasant yn ol i Dremadog, lle y bu'r tad yn dilyn ei grefft wrth yr eingion. Ychydig o fanteision addysg a gafodd y bardd—ychydig o fisoedd gyda John Wynne yn Nhremadog, ac ar ol hynny gyda Mr. David Williams. Ond ni pharhaodd hynny'n hir. Gorfu iddo feddwl am rhyw alwedigaeth, a dewisodd fyned at ei dad i ddysgu ei grefft ef. Danghosodd yn fore ei fod yn feddiannol ar yr "awen wir," a llafuriai'n ddiwyd i'w choethi a'i diwyllio trwy ddarllen yr oll o weithiau'r prif feirdd y gallai ddod o hyd iddynt. Symudodd i Borthmadog i ddilyn ei alwedigaeth fel meistr gôf, ac yno y bu hyd ei farwolaeth. Yn Ebrill, 1838, priododd gyda Ann, merch Humphrey Evans, Llanfair, Harlech, a bu iddynt naw o blant. Daeth yn gynghaneddwr medrus, a dechreuodd gystadlu'n yr eisteddfodau, a daeth i gael ei adnabod fel cystadleuydd o bwys. Yr oedd yn nodedig