Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am ei awen barod. Ysgrifennodd lawer o englynion—hynny oedd ei hyfrydwch ac enillodd lawer o wobrwyon. Ond nid oes yn aros heddyw, ar gôf gwerin Cymru, fawr yn ychwaneg na'r ddau englyn yn ei awdl i'r Gwaredwr a'i Deyrnasiad," sef, yr un i "Grist o flaen Pilat," a'r un i'r "Iawn." Wele'r blaenaf:—

Y Duw dirfawr, diderfyn,—bu ryfedd
Ei brofi gan adyn;
Un fu'n llunio tafod dyn
Yn fud o flaen pryfedyn


Wele'r llall:—.

Pob cur a dolur drwy'r daith,—a wellheir
Yn llaw'r meddyg perffaith;
Gwaed y groes a gwyd y graith
Na welir mo'ni eilwaith.


Honna rhai mai y Parch. David Jones, Treborth, yw awdwr y cwpled diweddaf; sut bynnag am hynny, y mae'n llawer perffeithiach gan y gôf na chan y pregethwr.

Ei brif gyfansoddiad yw ei awdl, "Y Gwaredwr a'i Deyrnasiad," a anfonodd i'r Gordofigion yn 1871. Er nad enillodd hon y wobr iddo, cydnabyddir hi yn awdl benigamp. Yr oedd ei gywydd i "Ddiffyniad Gibraltar, gan Elliott," yn fuddugol yn Eisteddfod Frenhinol Aberffraw yn 1849; "Cywydd Coffadwriaethol am y Dr. Morgan," yn Eisteddfod Rhuddlan yn 1850; a "Chywydd Coffadwriaethol am Robert ap Gwilym Ddu" yn Eisteddfod Madog, 1851.

Bu farw ar y 5ed o Fai, 1878, yn 66 mlwydd oed. Cyhoeddwyd ei weithiau barddonol, ynghyda bywgraffiad o hono, a llythyrau oddi wrth rai o brif feirdd ei genedl, o dan olygiaeth Cynhaearn,—y llyfr wedi ei argraffu'n lân a destlus gan Richard Jones, Pwllheli, yn 1881.

"Yr oedd yn gymydog caredig a diabsen, ac y mae y rhai a'i hadwaenent oreu yn dystion o hynawsedd ei galon a phurdeb ei gyfeillgarwch."—Cynhaearn, yn ei Gofiant.