Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yw Meirion o lyfrau tebyg. Bu farw ar y 12fed Hydref, 1882, yng Nghlog y Berth, Porthmadog, yn 48 mlwydd oed.

Anwyl anwyl, oedd ein Iolo inni,
A doniol lenor, daenai oleuni:
Athraw galluog, enwog, fu'n gweini
I'w oes a'i genedl mewn gwresog ynni:
Gwron oedd yn rhagori—mewn crefydd,
A gwir ddiwinydd garai ddaioni.
—Dewi ap Selyf.


JONES, DAVID (1866—91).—Mab i Richard ac Elizabeth Jones, 19, Lombard Street, a brawd i'r Parch. R. W. Jones, M.A., ac ŵyr, o du ei fam, i'r Parch. David Davies (Exciseman a phregethwr adnabyddus). Ganwyd David Jones ar y 12fed o Ebrill, 1866, yn y Fron Goch,—tyddyn bychan gerllaw Bontnewydd, Caernarfon. Efe oedd yr hynaf o saith o blant. Symudodd y teulu i Borthmadog, gan ymaelodi yng nghapel y Garth. Danghosodd y mab o'i febyd ei fod yn llawn o ysbryd yr efengyl; hi oedd ei hyfrydwch beunydd. Dechreuodd bregethu yn Ebrill, 1886. Aeth i Ysgol Ramadegol Aberystwyth—yr Ardwyn—ac oddi yno i Goleg y Bala. Ond ymosododd y gelyn arno, ac a'i lluddiodd i orffen ei addysg. Dychwelodd adref at ei deulu i geisio adferiad; ond wedi nychu'n hir, bu farw, ar y 15fed o Dachwedd, 1891, yn 25ain oed. Yr oedd ei gymeriad yn lân a phur, a'i grefydd yn ddiamheuol. Yr oedd yn gymeradwy gan ei gydnabod, yn dra addawol fel pregethwr, ac yn meddu mesur helaeth o ddawn y weinidogaeth. Claddwyd ef yng nghladdfa gyhoeddus Porthmadog. (Y Drysorfa, Ionawr, 1892).


JONES, WILLIAM (1812—1887).—Brodor o Chwilog, a nai fab chwaer i Sion Wyn o Eifion; crydd wrth ei alwedigaeth. Symudodd i fyw i Dremadog yn y flwyddyn 1837, i gadw siop grocer, lle y bu hyd y flwyddyn 1850, pryd y symudodd i Borthmadog, gan ymsefydlu'n wneuthurwr canhwyllau. Cymerai ran amlwg yng ngweithrediadau cyhoeddus y dref—yn addysgol, gwleidyddol a chrefyddol. Yr oedd yn bleid-