Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/177

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iwr selog i addysg rydd, a bu'n noddwr ffyddlon i'r Ysgol Frytanaidd. Cymerodd ran flaenllaw ym mrwydr y Bwrdd Ysgol. Mewn gwleidyddiaeth, Rhyddfrydwr pybyr ydoedd. Yr oedd yn siaradwr hyawdl a dylanwadol. Yn grefyddol, Bedyddiwr Cambelaidd ydoedd. Tua'r flwyddyn 1858, gwnaeth y brodyr yn Berea apel at Mr. Jones am iddo fod yn fugail arnynt, â'r hyn y cydsyniodd, ond ychydig a fu ei arhosiad. Ymneillduodd oddi yno, gan sefydlu achos o'i enwad ei hun yn Chapel Street. Bu farw ar 18fed o Orffennaf, 1887, yn 76 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Penymaes, Criccieth.


Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
William Alexander Madocks
ar Wicipedia

MADOCKS, WILLIAM ALEXANDER (1774—1828).Gwleidyddwr, gwladgarwr, a gwr o ysbryd anturiaethus, ac o ynni diderfyn—sylfaenydd Tre a Phorthmadog. Y trydydd mab ydoedd i John Madocks, St. Andrew's, Holborn, a'r Fron Yw a Glan y Wern, Sir Ddinbych—yntau'n un o enwogion ei oes, yn ddadleuydd amlwg yn Llys y Chancery, ac yn aelod seneddol dros Westbury, yn swydd Wilts (1786—80). Ganed y mab ar y 17eg o Fehefin, 1774. Cafodd fanteision addysg goreu ei ddydd. Aeth i Goleg Crist, Rhydychen, ac aeth yn llwyddiannus trwy Arholiad y Matriculation ar y laf o Fawrth, 1790. Graddiodd yn B.A. yn 1793, ac yn M.A. yn 1799, a bu'n Gymrawd o Goleg yr All Souls (1794—1818). Tua'r flwyddyn 1798 bu farw'i dad, gan adael iddo yntau gyfoeth Ymsefydlodd gyntaf yn ardal Llanelltyd, ger Dolgellau, gan brynu lle o'r enw Dolmelynllyn (Dolmenllyn, ar lafar gwlad). Tra yno darllennodd "Teithiau yng Nghymru" Pennant, a gwelodd ynddo'r ohebiaeth a fu rhwng y ddau Farwnig, John Wynne a Hugh Middleton, ynghylch ennill y Traeth Mawr oddiar y môr. Swynodd y syniad ef, ac ymbaratodd i'w gario allan—a llwyddodd. Yn 1798 prynodd ystad Tan yr Allt, adeiladodd blasty yno, a symudodd yno i fyw. Yn ei flynyddoedd diweddaf symudodd i Duhwnt i'r Bwlch a Morfa Lodge—y ddau ar y cyd. Erbyn 1810 yr oedd wedi adeiladu Tremadog. Yn 1807 cafodd hawl