Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/178

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gan y Goron, yr hyn a gadarnhawyd gan Ddeddf Seneddol, i wneud morglawdd, tua milldir o hyd, ar draws y Traeth Mawr, er ennill iddo ef a'i etifeddion oddeutu pum mil o erwau o dir. Anturiaeth lafurfawr a fu hon iddo. Treuliodd ei nerth a'i ynni er mwyn eraill. Ei arwyddair teuluaidd ydoedd, "Nid dyn iddo'i hun yn unig "; a chariodd hynny allan hyd at dylodi ei hunan. Parhaodd hyd y diwedd i ddadblygu Dyffryn Madog, ac i harddu'r gymdogaeth trwy lafurio'r Traeth a phlannu coedwigoedd yn Tan yr Allt, Tremadog, a Thuhwnt i'r Bwlch. Carai'r cain, edmygai'r prydferth, a hoffai rwysg a defosiwn. Er yn gymeriad cryf a phenderfynol, yr oedd yn nodedig o dyner, ac yn helaeth o dosturi. Ymwelai uchelwyr âg ef. Croesawai feirdd a llenorion o dan ei gronglwyd, a noddai eu cynyrchion. Dan ei nawdd ef y cynhaliwyd Eisteddfod Tremadog, 1811, ac efe a ddygodd ei holl dreuliau. Bu'n cynnal chwareufa (theatre) yn Nhremadog, a rhedegfeydd ceffylau ym Morfa Bychan.

Yr oedd yn wleidyddwr pybyr, a bu'n aelod seneddol am ddwy flynedd ar hugain,—un ar bymtheg dros Fwrdeisdref Boston, yn Swydd Lincoln, etholaeth a'i phoblogaeth ar y pryd yn 12,819—a chwech dros Fwrdeisdref Chippenham, yn Swydd Wilts. Wele ganlyniadau etholiadau Boston,—yr oll yn rhai cyffredinol. Dwy sedd.

Ion. 10fed, 1802.

W. A. Madocks (W.)...... 355
Thomas Fydel (jun.) (C.) 316
Lieut.-Gen. Ogle (C.)... 165


Tach. 3, 1806.

W. A. Madocks (W.) .....253
Thomas Fydel (C.) ...... 237
Major Cartwright (C.)... 59


Mai 8fed, 1807.

Thomas Fydel (C.) ......... 229
W. A. Madocks (W.)....... 196
Hon. Burrell (W.)............ 149
Major Cartwright (C.)........ 8


Hydref 8fed 1812.

W. A. Madocks (W.) ...... 263
P. R. D. Burrell (W.) ...... 223
Sir A. Hume, Bt. (C.) .... 206


Mehefin 18fed, 1818.

 P. R. D. Burrell (W.) .......299
W. A. Madocks (W.)........ 288
— Ellis (C.)..................... 270