Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MORRIS, WILLIAM EVANS (1822—1894).—Mab i'r Daniel Morris a enwyd eisoes. Ganed ef ym Mhorthmadog y 30ain o Awst, 1822. Yr oedd yn un o wyr mwyaf adnabyddus Porthmadog yn ei ddydd. farwolaeth ei dad, yn 1840, penodwyd ef yn Feistr yr Harbwr, a daeth, trwy ei ynni a'i gysylltiadau—yn enwedig ynglyn â'r porthladd—yn ddyn pwysig a gwerthfawr mewn llawer cylch. Yr oedd yn amaethwr llwyddiannus hefyd, a bu'n gwneud masnach helaeth mewn llosgi a gwerthu calch. Bu'n gwasanaethu'r dref ar ei holl fyrddau cyhoeddus. Bu'n Warcheidwad ffyddlon a chyfiawn am flynyddau, ac yn aelod gweithgar ar y Bwrdd Lleol. Gweithiodd yn galed, a dilynodd ei ddyledswyddau'n ddiwyd. Bu iddo deulu llu osog, ac y mae rhai o'i ddisgynyddion ymhlith gwyr enwocaf y dref heddyw. Bu farw ar y 24 o Fai, 1894, yn 72 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Llanfihangel-y-Traethau.

MORRIS WILLIAM JONES (1847—1905).—Meddyg, mab i'r W. E. Morris uchod, a aned Mehefin y 25ain, 1847. Wedi cwblhau ei addysg elfennol, yn 1864 aeth yn egwyddor—was o feddyg at Dr. Samuel Griffith. Yn 1869 aeth am ysbaid tair blynedd o addysg athrofaol i Glasgow. Oddi yno penodwyd ef yn House Surgeon yn y Southern Dispensary, Lerpwl, lle yr arhosodd hyd y flwyddyn 1879. Yna dychwelodd i'w dref enedigol, gan sefydlu busnes iddo'i hun, yr hwn a lwyddodd yn gyflym. Yr oedd yn feddyg medrus, ac yn garedig wrth y gwan a'r tlawd. Yn 1899 penodwyd ef yn feddyg adran Porthmadog, y Garn a Beddgelert, o Undeb Ffestiniog. Bu'n Ysgrifennydd i Gangen Gogledd Cymru o'r Gymdeithas Feddygol Brydeinig. Bu hefyd yn Gadeirydd i'r Gangen, a chynrychiolai Ogledd Cymru ar Gyngor y Gymdeithas. Cymerai ddyddordeb mawr mewn Addysg. Bu'n un o Reolwyr yr Ysgol Ganolraddol Porthmadog, a Choleg Bangor, ac yr oedd yn aelod o Bwyllgor Addysg Sir Gaernarfon. Bu'n aelod o Gyngor Dinesig Porthmadog, ac yn Gadeirydd yn 1904—5. Meddai ar gym-