Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/191

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwysderau neillduol at waith pwyllgorau. Yr oedd yn ddirwestwr selog, a gwnaeth wasanaeth i'r achos yng Nghymanfaoedd Eifion, Lleyn, Arfon, a Meirionnydd. Yr oedd yn Annibynwr o'r radd flaenaf, a bu'n noddwr ffyddlon a pharod i'w enwad. Yr oedd yn Gymro twymgalon, a chefnogai ein lên a'n heisteddfodau. Ceidwadwr ydoedd mewn gwleidyddiaeth. Bu farw mewn Ysbyty—Gartref yn Llunden, Hydref 15fed, 1905. Claddwyd ef ym meddrod ei dadau ym mynwent Llanfihangel-y-Traethau.

OWEN, ROBERT (1867—1900).—Efengylwr—mab i Capten William Owen, y Marion. Ganwyd ef ym Mhorthmadog yn 1867. Bu am flynyddoedd yn dal swydd gyfrifol yn swyddfa Cwmni Llechi Maenofferen. Dechreuodd bregethu'n gynnar yn y flwyddyn 1889 gyda'r Annibynwyr yn Salem; ac ni wynebodd purach cymeriad a gonestach gwr erioed ar waith y pwlpud. Ymhyfrydai mewn cynhorthwyo'r gwan a'r anghenus; a bu'n gwasanaethu eglwysi gwannaf y cylch lawer pryd yn ddi—dâl—a hynny o ewyllys ei galon dyner. Ymbriododd â Miss Maggie Jones, 'Refail Bach, Abersoch—chwaer i briod Eifion Wyn—a bu iddynt ddau fab. Ond ni welodd eu bywyd priodasol ond ei chwemlwydd oed. Bu farw'r Cristion pur, y gwr tyner, a'r tad gofalus, ym Mehefin, 1900, yn 33 mlwydd oed. Hanner brawd iddo yw y Proffeswr Morris B. Owen, B.A., B.D.,—athro yng Ngholeg Caerfyrddin, ac un o bregethwyr ieuanc blaenaf y Bedyddwyr.


OWEN, THOMAS (1833—1908).—Ganwyd ef ym Mhlas ym Mhenllech, Lleyn, Mawrth, 1833. Derbyniodd ei addysg yn Nhydweiliog, a bu am bum mis yn Ysgol Ramadegol Bottwnog, o dan gyfarwyddyd yr ysgolor gwych, y Parch. John Hughes, y Rheithor. Oddiyno symudodd at ei ewythr, oedd yn fasnachydd pwysig yn Wolverhampton, a bwriedid iddo ymsefydlu gydag ef yn y fasnach. Ond blwyddyn yn unig a fu efe yno cyn dychwelyd adref at ei rieni i Blas ym Mhenllech. Yn fuan wedi iddo ddychwelyd adref tu-