Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Madocks, o dan Mr. David Williams. Ganwyd y mab ym Meddgelert; ond symudodd y teulu, pan oedd efe'n ieuanc, i fyw i'r Borthwen, Minffordd, ac oddi yno i'r Cae Canol; ac yn ddiweddarach i Ynys Towyn, Porthmadog, lle y bu y rhieni farw—Mr. John Roberts ar y 9fed o Ionawr, 1874, yn 70 mlwydd oed, a Mrs. Margaret Roberts ar y 13eg o Hydref, 1884, yn 80 mlwydd oed. Derbyniodd y mab ei addysg yn Ysgol Elfennol Penrhyndeudraeth, a dygwyd ef i fyny'n estate agent yn swyddfa y Stâd Madocks. Ar farwolaeth Mr. Breese, yn 1881, penodwyd Mr. Roberts yn olynydd iddo, fel prif oruchwyliwr y stâd—swydd a lanwodd am chwarter canrif gyda medr a dyheurwydd mawr, gan ymdrechu hyd ei allu i wneud cyfiawnder â'r ddwyblaid, y perchenogion a'r tenantiaid. Ni adawodd i'w gysylltiadau â'r ystâd ei luddias i gymeryd dyddordeb ym mywyd cyhoeddus y dref,—er na chwenychai amlygrwydd, oblegid un o wyr yr encilion oedd efe. Bu ganddo ran mewn cael y Llywodraeth i sefydlu Addysg Ganolraddol yn y dref; a gwnaeth ei ran i hyrwyddo masnach y dref. Efe oedd Cadeirydd yr Horse and Dog Show gyntaf ym Mhorthmadog. Yn grefyddol, yr oedd yn un o'r aelodau ffyddlonaf—er yn ddistaw—o eglwys y Garth. Bu'n athraw yn yr Ysgol Sul am dros 25 mlynedd, ac ystyrid ef yn engraifft dda o'r hyn a ddylai athraw fod. Gofalai bob amser ar fod gwaith y dosbarth yn cael ei gario ymlaen mewn trefn. Yr oedd yn ddarllennwr mawr, a chylch ei ddarllen yn eang; ac anodd a fyddai cael lleygwr ym meddu ar well llyfrgell na'r eiddo ef. Ar ei symudiad o Borthmadog, yn 1896, i fyw i dŷ o'r enw Cliff, a adeiladwyd ganddo ym Mhenrhyndeudraeth, anrhegwyd ef gan ei ddosbarth â nifer o gyfrolau gwerthfawr yn deyrnged o'u parch a'u hedmygedd o hono. Bu farw ar y 25ain o Chwefrol, 1906, yn 67 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym meddrod y teulu ym mynwent Llanfrothen. Yno hefyd y gorwedd ei frawd, Mr. Robert Roberts, a fu farw ar y 15fed o Hydref, yr un flwyddyn, yn 62 mlwydd oed.