Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/199

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ROBERTS, O. M. (1833—1896).—Pensaer—architect—mab i Edward Roberts. Ganwyd ef yn Birkenhead, a dygwyd ef i fyny yn asiedydd. Symudodd i Borthmadog yn 1850, a bu'n gweithio crefft ei dad ar gapel y Tabernacl, pryd y cynhaliai hefyd gyfarfodydd i ddysgu drawing. Wedi gorffen adeiladu'r Tabernacl, ymsefydlodd yn adeiladydd; ond rhoddodd hynny i fyny'n fuan, gan ymsefydlu fel pensaer, gyda'r hyn y bu iddo lwyddiant nid bychan, yn enwedig gyda chapelau. Efe a gynlluniodd y Capel Coffa, y Garth, Bont Ynys Galch, ac Ysgol Frytanaidd Porthmadog. Bu farw Rhag. 15fed, 1896, yn ei 63ain mlwydd o'i oedran.

ROBERTS, ROBERT (1790—1865).—Mab i Edward a Dorothy Roberts, Ystumcegid, a anwyd ym Mawrth, 1790. Symudodd i fyw i Bensyflog. Bu'n flaenor yn eglwys y Methodistiaid yn Nhremadog am flynyddau; yn arolygwr yr Ysgol Sabothol; yn drysorydd y Feibl Gymdeithas; ac hefyd yn Is—lywydd i'r Gymdeithas Gyfeillgar Leol. Bu ganddo ran flaenllaw gyda phob symudiad o bwys yn ei amser yn Nhre' a Phorthmadog; ac yr oedd yn meddu dylanwad yn y cylchoedd y troai ynddynt. Yr oedd yn ddisgynydd o un o bymtheg llwyth Gwynedd, ac iddo berthynas â theuluoedd hynaf y broydd. Bu farw ar y 3ydd o Fai, 1865, yn 75 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Penmorfa.


ROBERTS, ROBERT (1824—1892).—Meddyg a llenor, ydoedd frodor o'r Dyffryn. Bu'n egwyddor-was gyda Dr. Rowland Williams. Sefydlodd fusnes iddo'i hunan, a bu'n ei ddwyn ymlaen yn llwyddiannus, ac ar raddfa eang, am 35 o flynyddoedd. Yn y rhan ddiweddaf o'i fywyd cymerodd yn bartner Dr. Henry Evans. Yr oedd yn wladwr selog, yn ddyngarwr caredig, yn elusengar i'r tylawd, yn dyner o'r amddifad, ac yn noddwr i bob achos teilwng yn y lle. Yr oedd yn llyfrbryf diwyd, a chasglodd gronfa fawr o lyfrau, y rhai a werthwyd wedi ei farw. Carai farddoniaeth, ac yr