Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/201

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ROBERTS, THOMAS (1837—1900).—Peiriannydd a phensaer. Ganwyd ef yn Nyffryn Ardudwy Chwefrol 17eg, 1837. Derbyniodd ei addysg yno, ac yng Ngholeg Hyfforddiadol Gogledd Cymru, yng Nghaernarfon. Oddi yno symudodd i gadw ysgol ddyddiol i Rhyl, ac oddi yno aeth i Lunden i efrydu peiriannaeth. Bu yn Birmingham a Llunden gyda rhai o gwmniau goreu'r deyrnas yn myned trwy ei rag—brawfion. am gyfnod yn yr Amwythig, ac yna ymsefydlodd ym Mhorthmadog fel peiriannydd i Siroedd Meirion ac Arfon. Yma y treuliodd weddill ei ddyddiau mewn cysur a dedwyddwch, ac yn fawr ei barch gan yr oll o'i gydnabod. Yr oedd yn ddyn dwys, pwyllog, ac amyneddgar, ac yn "foneddwr wrth natur. Noddai lenyddiaeth ei wlad, ac ymgydnabyddai lawer â gweithiau'r prif feirdd. Yr oedd yn achyddwr campus, ac yn awdurdod ar arfau bonedd (coat of arms). Bu farw Ionawr, 1900, a chladdwyd ef ym mynwent gyhoeddus Porthmadog. (Cymru, Cyf. xix., tud. 61).

ROWLAND, ROBERT (1829—1898).—Brodor o Danygrisiau, Meirionnydd. Ganwyd ef ar y 27ain o Hydref, 1829, ac efe oedd y pumed plentyn o wyth. Bu farw ei dad pan nad oedd efe ond naw mlwydd oed. Bu am ddeunaw mis gyda'i ewythr, David Rowlands, yng Nghaernarfon; ond o hiraeth dychwelodd yn ol i'w gartref i Feirion. Yn un ar ddeg oed aeth i weithio i'r chwarel at ei frawd hynaf. Pan nad oedd efe ond 15eg oed aeth ei frawd i'r America, gan ei adael ef yn unig i ofalu am ei fam a'r plant ieuengaf.

Pan yn 16eg oed bu ei fam farw, a disgynnodd arno ef y cyfrifoldeb o ofalu am bedwar o blant, heblaw ei hunan. Wedi i'r ieuengaf o honynt gyrraedd oedran i ofalu drosto'i hun, penderfynodd Robert gynilo tuag at gael blwyddyn o addysg; ac aeth i Glynog at Eben Fardd. Ar ei ddychweliad oddi yno cafodd y swydd o arolygwr llechau gan Mr. J. W. Greaves. Yn 1856 gwnaed ef yn ysgrifennydd a shipper i Gwmni Chwarel y Rhosydd. Yn 1871 ymgymerodd ac arolygu cangen o Fanc y Mri. Pugh Jones a'i Gyf. Yn 1877 symudodd i ar-