Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/202

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olygu canghenau Ariandy Gogledd a De Cymru yn Abermaw, Blaenau Ffestiniog (1878—83), a Phwllheli (1883—92). Yn 1892 ymneillduodd o'r Banc, gan fyned i dreulio nawnddydd ei fywyd mewn tawelwch i Blas Isa, Penmorfa, a gwnaed ef yn Ynad Heddwch. Felly ymddyrchafodd, o fod yn chwarelwr i fod yn oruchwyliwr, yn fancer, ac yn Ynad Heddwch. Bu'n warden am ddeuddeng mlynedd, a gweithiodd yn egniol dros Addysg. Yr oedd yn un o gefnogwyr mwyaf blaenllaw yr Ysgol Frytanaidd, ac yn arweinydd o blaid addysg rydd ym mrwydr y Bwrdd Addysg. Yr oedd yn Rhyddfrydwr, Dirwestwr, a Methodist selog. Yr oedd hefyd yn llenor coeth; a phleidiai'r cyfarfodydd llenyddol a'r eisteddfod. Ysgrifennodd lawer i'r Drysorfa, y Cymru, a'r Llenor, a chyhoeddodd rai llyfrau. Gwnaed ef yn Gymrawd o'r Gymdeithas Hynafiaethol. Dewiswyd ef yn flaenor bum gwaith,—yn y Tabernacl, y Gareg Ddu, y Bowydd, Penmount (Pwllheli), ac ym Mhenmorfa. Bu'n llanw prif swyddi ei Gyfundeb; cyfrannodd yn hael at grefydd, a gadawodd £500 yn ei ewyllys at Athrofa'r Bala. Bu'n briod ddwy waith yn gyntaf yn 1857, âg Ann, merch Capten Pritchard, Porthmadog, yr hon a fu farw yn 1887; a'r ail waith yn 1888, â Miss Roberts, merch y diweddar Barch. John Roberts, cyn—ysgrifennydd y Gymdeithas Genhadol Dramor y Methodistiaid. Wedi marwolaeth ei phriod, cyflwynodd Mrs. Rowland ei lyfrgell—tua 350 o gyfrolau yn anrheg i eglwys y Tabernacl, Porthmadog.

Bu farw Mr. Rowland ar y 14eg o Dachwedd, 1898, yn 69 oed. Claddwyd ef yng nghladdfa cyhoeddus Porthmadog.—(Cymru, Chwef., 1899; y Drysorfa, Hydref, 1899; "Cofiannau Cyfiawnion," tud. 68).


Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Charles Easton Spooner
ar Wicipedia

SPOONER, CHARLES EASTON (1818—1889).—Peiriannydd, mab i James Spooner, a aned yng Nglanwilliam, Maentwrog, yn y flwyddyn 1818. Wedi cwblhau ei addysg yn 1832, aeth i gynorthwyo ei dad yng ngwneuthuriad Rheilffordd Gul Ffestiniog, ac i ddysgu y grefft o beiriannydd. Daeth i fod yn is-reolwr y