1865—Gorff. 24.
Wynne, W. R. M. (T.) 610 Williams, David (R.) 579 Yn Etholiad 1868 etholwyd ef yn ddiwrthwynebiad; ond bu farw ymhen y flwyddyn wedi derbyn yr anrhydedd. Yn gydnabyddiaeth am ei lafur dros Ryddfrydiaeth Meirion, derbyniodd ganddi y swm o saith gant o bunnau, ac anrhegwyd ef â llestri arian drudfawr. Fel boneddwr, yr oedd yn nodedig am ei barodrwydd i estyn gwaith i'r sawl a'i ceisiai, a hwnnw lawer tro yn waith afreidiol. Cymerai ddyddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg, ac ysgrifennai'n fynych mewn rhyddiaeth a chân i'r cyfnodolion dan yr enw "Dewi Heli." A dywedid ar lafar gwlad fod ganddo Esboniad ar y Testament Newydd, o'i waith ei hun, mewn MS. yng Nghastell Deudraeth. Ond fel twrne, yn anad unpeth, yr erys yr atgof am dano yn Lleyn ac Eifionnydd. Bu farw ar y 15fed o Ragfyr, 1869, gan adael gweddw a deuddeg o blant yn amddifaid ar ei ol. Un o'r plant yw Syr A. Osmond Williams, Castell Deudraeth. Gorwedd ei lwch ym mynwent Eglwys Penrhyndeudraeth.—("Enwogion Meirion," tud. 48).
WILLIAMS, JOHN (Tuhwnt i'r Bwlch, 1778—1850). —Un o wyr mawr Môn " oedd efe, ac yn deilwng o draddodiadau gore'r Ynys. Mab ydoedd i amaethwr cyfrifol, Mr. John Williams, Ty'n Llan, Llanfihangel Ysgeifiog. Dygwyd ef i fyny yn arddwr, ym Mhlas Ardalydd Môn. Ond pan glywodd am anturiaethau Mr. Madocks, cyfeiriodd ei wyneb tuag ato,—ei debyg a dyn at ei debyg, ar y cyntaf i geisio ganddo le yn arddwr; ond gwelodd Mr. Madocks yn fuan adnoddau amgenach na garddwr ynddo gwelodd ddefnyddiau goruchwyliwr, ac ni siomwyd mohono. Ymsefydlodd Mr. Williams yn Ynys Tywyn—nid oedd yr enw Porthmadog wedi ei fabwysiadu y pryd hynny. Ymbriododd â Miss Williams, Saethon, Lleyn, a symudasant i fyw i Duhwnt i'r Bwlch. Ymdaflodd Mr. a Mrs. Williams i fywyd goreu'r dref ieuanc. Hwynthwy fu'n foddion i sefydlu achos Annibynol yn y lle. Cymerai Mr.