Williams ran flaenllaw gydag addysg, a phob achos dyngarol. Eglwyswr egwyddorol ydoedd, ond noddai grefydd yn gyffredinol. Yr oedd yn gyfaill personol i feirdd a llenorion y cwmwd, ac yn un o garedigion pennaf y bardd gorweddiog, Sion Wyn o Eifion. Ar ol ei farw, ebe Sion Wyn mewn llythyr at Eben Fardd —"Gwyddwn yn dda y byddai i ti gydymdeimlo â mi yn y golled a gefais trwy farwolaeth Mr. Williams. Anhawdd fydd i mi weled neb a ragora arno ef fel cyfaill yn ei fawr ewyllys da i mi—ei ymgais i wneud lles i mi, ei ofal gwastadol am danaf, a'i ddull tyner a serchiadol tuag ataf: yr oedd yn nodedig a thra theilwng o fy mharch mwyaf diffuant."[1] Bu farw, ar y 26ain o Dachwedd, 1850. Dodwyd ei weddillion mewn vault o dan lawr Eglwys Tremadog, a dodwyd coflech o fynor ar bared yr eglwys er cof am dano, ac hefyd am ei briod a'u hunig fab, y rhai a hunant yn yr un beddrod.
WILLIAMS, J. H. (1813—1876).—A anwyd ar yr 8fed o Orffennaf, 1813. Gôf cyffredin ydoedd wrth ei alwedigaeth. Gweithiodd yn galed. Codai'n fore, ac elai'n hwyr i gysgu, a gorchfygodd anhawsderau lu. Ymddyrchafodd i fod yn berchennog y Britannia Foundry, y Steam Mills, ynghyda nifer o longau a thai; a bu am gyfnod helaeth o'i fywyd yn llwyddiannus iawn. Ni dderbyniodd unrhyw fanteision addysg ym more'i oes; ond yr oedd yn feddiannol ar ynni a phenderfyniad diderfyn ymron. Cyflogai lawer o weithwyr, ac yr oedd caredigrwydd ac haelioni'n cydgyfarfod ynddo. Yr oedd yn Fethodist selog. Cymerodd ran amlwg yn ffurfiad eglwys y Tabernacl, a gwnaed ef yn un o'i swyddogion cyntaf. Gwasanaethodd ei gapel a'i enwad yn ffyddlon, a gadawodd ganpunt yn ei ewyllys ddiweddaf tuag at ddiddyledu'r Tabernacl. Gweithiodd yn egniol gydag addysg rydd, a chyfranodd yn helaeth tuag ati. Yr oedd yn ewythr, o frawd ei fam, i'r Cymro twymgalon, Mr. Cadwaladr Davies, Bangor—un o garedigion pennaf addysg
- ↑ "Adgof Uwch Anghof," tud. 154.