Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/208

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Cymru. Bu farw ar yr 21ain o Awst, 1876, yn 63 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent capel y Garth.

WILLIAMS, WALTER EBNER (1865-1911).—Meddyg a llenor. Yr oedd o du ei fam yn orŵyr i John Davies, Nantglyn, Sir Ddinbych, ac o du ei dad yn ddisgynnydd o un o hen deuluoedd Pennant, yn Eifionnydd. Ganwyd ef yn Rhuthyn, yn 1865. Pan yn ddwy flwydd a hanner oed bu farw ei fam, a chymerwyd yntau o Ddyffryn Clwyd at ei nain a'i ewythr i Fur Cyplau, Llangybi. Bu ei ewythr, Robert Williams wrth ei enw —yn noddwr hael a charedig iddo, ac yn hyfforddwr doeth i'r llanc yng nghychwyniad ei yrfa. Derbyniodd ei addysg gan un Miss Salt, ym Mhencaenewydd, ac yn Ysgol y Bwrdd, Llangybi. Oddi yno aeth i Ben y Groes at Dr. Roberts, i baratoi at fyned i Ysgol y Friars, Bangor. Wedi ysbaid yno, aeth i Groesoswallt —yna i Glasgow, lle y graddiodd yn M.B., C.M. Bu am gyfnod byr yn Lloegr, a chyda Dr. Hunter Hughes ym Mhwllheli. Pan yn 21ain oed ymsefydlodd ym Mhorthmadog, lle y bu'n fawr ei barch gan fonedd a gwreng, hyd ddydd ei farwolaeth, ar y 27ain o Fehefin, 1911. Gadawodd weddw ac un mab yn amddifad ar ei ol. Fel meddyg, bu iddo fesur helaeth o lwyddiant. Yr oedd ei foneddigeiddrwydd a'i hynawsedd caredig yn ennill iddo ffafr goreuon y cylchoedd. Ennillodd enw iddo'i hun fel meddyg llygad. Ni bu meddyg erioed yn fwy cydwybodol gyda'i alwedigaeth, a mwy ymwybodol o urddas ei swydd. Gweinyddai ar y tlotaf yn y fro—nad oedd ganddo arian i'w gynnyg iddo am ei waith gyda'r un ymroddiad gonest ag a wnai ar y pendefig yn ei blas. Talodd lawer o sylw yn ei oriau hamdden i Natur, ac ymddanghosodd ysgrifau yn cynnwys ffrwyth ei fyfyrdod, yn y Cymru. Ysgrifennodd ychydig i gylchgronnau eraill, a dengys yr oll y llenor coeth, carwr y cain a'r prydferth, a delweddwr y pur, y perffaith, a'r aruchel. Yr oedd ei gariad tuag at yr Eglwys yn angherddol. Nid oherwydd ei chredöau, ond o herwydd ei hynafiaeth a'i defoşiynau mawr