Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eddog, y rhai oedd mewn cynghanedd berffaith â'i ddynoliaeth urddasol ef ei hun. Bu farw yn dawel, wedi cystudd maith, a chladdwyd ef yn ol ei drefniadau ei hun ym mynwent Llangybi. Cludid ei gorff ar fodur, mewn arch o dderw di—addurn, a dodwyd ef i orffwys mewn bedd oedd yn dwyn nodau ei fywyd pur ef ei hun. Yn lle gwaith maen, yr oedd brwyn wedi eu dodi yn y bedd, a'u pennau i waered—yn arwyddlun o wyleidd—dra gostyngedig.—(Cymru, Gorffennaf, 1912).

WILLIAMS, WILLIAM (1817—1897).—Un o hen yd y wlad ydoedd Mr. William Williams, Llannerch, a mab i un o Biwritaniaid gloewaf Eifionnydd. Ganwyd ef yn y Llannerch, yn y flwyddyn 1817. Yr oedd ei dad yn un o brif flaenoriaid Methodistaidd Sir Gaernarfon, yn un o sylfaenwyr yr enwad ym Mryn Melyn a Thremadog, ac yn gyfaill mynwesol i'r Parch. John Jones. Eri William Williams, y mab, gael magwraeth grefyddol, yr oedd yn ugain oed cyn ymuno â chrefydd —am na oddefai'r Methodistiaid, y pryd hynny, i blant gael eu dwyn i fyny yn y seiat fel yn awr. Ond pan ymunodd, daeth yn fuan i fod yn ddeheulaw deilwng i'w dad parchus yn eglwys Tremadog. Ar ffurfiad eglwys y Garth, efe oedd un o'r prif symudwyr, a dewiswyd ef yn flaenor yno,—swydd a lanwodd gydag urddas a pharchedigaeth am 45 o flynyddoedd.

Pan sefydlwyd Cymdeithas Lenyddol Cefnymeusydd, yn 1846, ymunodd â hi; a bu'n aelod ffyddlon ohoni hyd ei diwedd, a diau i honno fod o fantais iddo i ddysgu meddwl a dweyd ei feddwl. Yr oedd yn ddarllennwr mawr ar brif lyfrau'r Piwritaniaid, a geid yn llyfrgell ei dad—ac yn gredwr cryf yn llywodraeth ragluniaethol Duw ar y byd. Yr oedd ei dueddiadau naturiol yn siriol a bywiog; ac yr oedd bob amser yn rhydd a chyfeillgar gyda'i gydnabod oll. Yr oedd yn grefyddwr cywir, yn gymydog pur, ac yn feistr duwiol, gyda phersonoliaeth gref a dylanwadol, a'i grym yn ymestyn dros ei holl dŷ. Er yn byw tua milldir a hanner o gapel y Garth, eto anfynnych y collai unrhyw foddion tra y gallai fod yn bresennol. Mynychai'n