rheolaidd hefyd y seiat ym Morfa Bychan. Yr oedd yn wr cadarn yn yr Ysgrythyrau, yn gynghorwr effeithiol, ac yn weddiwr mawr. Pur anniben fu efe i gefnogi adeiladu'r Garth presennol; ond wedi i'r eglwys benderfynu symud ymlaen, ymunodd yntau â hi'n llawen, a chyflwynodd £25 i'r gronfa, gan adael £25 arall yn ei ewyllys ddiweddaf. Yr oedd yn ffyddlon a theyrngarol i'r Cyfundeb a'i gasgliadau; ond ystyriai bob achos ar ei deilyngdod ei hun. Ar ei farwolaeth gadawodd £30 i'r Drysorfa Gynnorthwyol, a deg punt at yr achos ym Morfa Bychan. Bu farw ar yr 1leg o Awst, 1897, yn 80 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Penmorfa.—(Y Drysorfa. 1898, tud. 331).
ENWOGION HEDDYW.
"Y mae Cymru'n dod yn lle i fagu, a'r byd yn lle i fyw. Ym mhen ychydig dywedir am dani, Y gwr a'r gwr a aned ynddi.'" —MORRIS PARRY, Caer, yn 1896.
BREESE, CHARLES E.—Cyfreithiwr, llenor, hynafieithydd a gwleidyddwr. Mab hynaf ydyw i Mr. Edward Breese, a brawd i Mr. David Breese, Clerc yr Heddwch ym Meirion. Yn 1895 cyhoeddodd lyfr, dan y teitl "Welsh Nationality." Y mae'n hynafieithydd gwych, ac y mae wedi ysgrifennu amryw o ysgrifau gwerthfawr i'r cyhoeddiadau hynafiaethol. Ar ddyrchafiad Mr. J. Jones Morris, yn 1908, yn Henadur, etholwyd Mr. Breese yn olynydd iddo, fel cynrychiolydd rhanbarth orllewinol y dref ar y Cyngor Sir. Efe hefyd yw Ysgrifennydd Cymdeithas у Chwarelau, ynglyn â pha un y mae wedi dangos llawer o fedr. Efe yw Ysgrifennydd yr Income a'r Land Tax Commissioners dros ddeheubarth Arfon; ac y mae wedi gweithredu fel Trysorydd Mygedol y Cyngor Rhyddfrydig Cenedlaethol Cymreig er 1903.