Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/217

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

areithio a dadleu'n gyhoeddus; yno y daeth i sylw gwlad; yno y priododd; ac oddi yno, ar y 10fed o Ebrill, 1890, yr aeth i'r Senedd fel aelod dros Fwrdeisdrefi Arfon.

GREAVES, JOHN ERNEST.—Arglwydd Raglaw Sir Gaernarfon. Mab hynaf Mr. J. W. Greaves, a phrif berchennog y Cwmni Chwarelyddol sy'n dwyn yr enw heddyw ym Mlaenau Ffestiniog a Phorthmadog.

GREAVES, RICHARD METHUEN.—Mab ieuengaf, a phartner gyda'i frawd yn y fasnach lechi. Dygwyd ef i fyny'n beiriannydd, a'u chwarel hwy oedd y gyntaf yng Ngogledd Cymru i ddefnyddio trydan i'w goleuo. Y mae wedi gwasanaethu llawer ar y Cynghorau Plwyfol a Threfol; a Gorffennaf diweddaf etholwyd ef i gynrychioli Plwyfi Penmorfa a Dolbenmaen ar Gyngor Sir Arfon. Cymer ddyddordeb mawr mewn magu gwartheg duon Cymreig, ac ennilla'r prif wobrwyon yn yr Arddanghosfeydd Brenhinol a Chenedlaethol gyda hwy. Gweithreda lawer fel beirniad hefyd yn yr arddanghosfeydd, a lleinw swyddi pwysig ynglyn â hwy. Y flwyddyn o'r blaen, penodwyd ef ar y Commisiwn Brenhinol i chwilio i mewn i achos damweiniau ynglyn â'r chwareli.

GRIFFITH, WILLIAM (Eos Alaw).—Brodor o Lanbedrog, Lleyn, a melinydd wrth ei alwedigaeth. Symudodd i Borthmadog ym Mehefin, 1869, i weithio ynglyn â'r lech fasnach. Y mae wedi gwneud llawer gyda cherddoriaeth, a dechreuodd gystadlu'n fore. Y wobr gyntaf a ennillodd ydoedd o dan feirniadaeth Tanymarian, am ddadansoddi yr Hen 50 (o Lyfr Tonnau Ieuan Gwyllt). Bu'n arweinydd côr llwyddiannus yn Rhydyclafdy a Llanbedrog. Ar ei ddyfodiad i Borthmadog ymunodd â Chôr yr Eglwys (hen gôr William Owen), o dan arweiniad Mr. John Thomas. Yn ddilynol, ymunodd â Chôr Mr. John Roberts. Pan ffurfiodd Mr. Roberts y Gerddorfa, yr oedd Mr. William Griffith yn un o'r chwareuwyr cyntaf. Yr