Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/218

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

offeryn a chwareuai oedd y "ffidil fawr," neu fel y dywed y cerddorion, y "'cello." Bu'n chware ymhob perfformiad y bu'r Gerddorfa ynddo, ym Mhorthmadog, Dolgellau, Ffestiniog, Bala, Caernarfon, a Phwllheli, &c. Y mae wedi cyfansoddi tua 50 o Donau, naw o Ranganau, 4 o Donau Plant, dwy Anthem, Cantata, a Chants. Ei dôn fwyaf adnabyddus yw "Y Gest" (rhif 274, yn Llyfr Tonau y M.C.). Am ei waith fel cyfansoddwr, dyfynaf a ganlyn o adolygiad Isalaw, yn y Cymro, am Mai 25ain, 1893, ar ei rangan, "Ai Cariad yw?" "Y mae teithi y rhangan yn hynod firain. a thlws. Cyfansoddiad destlus ydyw a chyfansoddiad a haedda gylchrediad helaeth. Gwna Ai Cariad yw' destyn cystadleuol rhagorol." Ac ebe D. Jenkins am yr un dernyn—"Ceir yma gyfuniad o alawon a chynghaneddion mirain, teilwng o ysgolhaig cerddorol gwych."

HUGHES, HENRY.—A anwyd yng Nghefn Isa', Rhoslan. Symudodd y teulu i Dre a Phorthmadog. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Frytanaidd Bont Ynys Galch, Dolbenmaen, Clynnog, a'r Bala. Dechreuodd bregethu yn y Garth, Porthmadog. Yn 1872 derbyniodd alwad i fugeilio eglwysi Bryncir, Brynengan, a'r Garn. Yn 1882 ymadawodd y Garn o'r daith, gan adael Brynengan a Bryncir yng ngofal Mr. Hughesa than ei ofal ef y maent hyd heddyw. Y mae wedi ysgrifennu llawer i gyfnodolion ei enwad a'r rhai cenedlaethol, ac wedi cyhoeddi amryw lyfrau,—rhai hanesyddol yn bennaf. Wele restr ohonynt: "Hanes yr Ysgol Sul yn Eifionnydd" (1886); Cyfieithiad o Amddiffyniad i'r Methodistiaid Calfinaidd," Thomas Charles (1894); Hanes Robert Dafydd Brynengan (1895); "Owen Owens Corsywlad (1898); "Trefecca, Llangeitho, a'r Bala" (1896); Diwygiadau Cymru " (1906). Ysgrifennodd hefyd rannau helaeth o Gofiant Richard Owen—ychwaneg nag y rhoddir clod iddo am dano. Y mae ers blynyddoedd bellach yn paratoi "Hanes Methodistiaid Lleyn ac Eifionnydd," a disgwylia ei enwad yn ffyddlon am dano.