Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/219

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

IOLO CAERNARFON (J. J. Roberts).—Llenor, bardd, a phregethwr. Brodor o Cesarea, Cilgwyn, yn Arfon. Ganwyd ef yn 1840. Cafodd beth addysg ym more'i oes; ond aeth i'r chwarel yn ieuanc. Pan yn 26ain oed, aeth i Ysgol Dewi Arfon i Glynnog. Yn 27ain oed dechreuodd bregethu. Yn 1868 aeth i Goleg y Bala. Yn 1873 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys Trefriw. Ordeiniwyd ef yn Llanrwst yn 1874. Symudodd i Borthmadog yn y flwyddyn 1879, i gymeryd gofal eglwys y Tabernacl, lle y bu hyd y flwyddyn 1910, yn fawr ei barch a'i ddylanwad.

Bu'n llenwi prif swyddau'i Gyfundeb—dwy waith yn Arholwr Cymdeithasfaol; yn Llywydd y Gymanfa Gyffredinol yn Llanberis yn 1900; yn Llywydd Cymdeithasfa'r Gogledd yn 1906; ac yn traddodi Darlith Davies yn Llanelli yn 1907. Bu a rhan bedair gwaith yng Ngwasanaeth Ordeinio y Cyfundeb, ac yn traddodi'r Cyngor ddwywaith. Fel llenor, ychydig sy'n fyw heddyw sydd wedi ysgrifennu cymaint o bethau arhosol ag ef—mewn barddoniaeth a rhyddiaeth—heblaw ei ysgrifau lliosog i brif gyfnodolion ei oes. Y mae wedi cyhoeddi cyfrolau gwerthfawr, y rhai sydd hwyrach yn rhy aruchel, cyfrin, ac ysbrydol, i'r mwyafrif eu gwerthfawrogi. Nid yw ei genedl eto wedi ei adnabod, na sylweddoli ei dyled iddo. Fel bardd, y mae wedi bod yn fuddugol deirgwaith ar Bryddestau yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Ym Mangor, yn 1890, "Ardderchog Lu y Merthyri "; yn Abertawe, yn 1891, ar "H. M. Stanley"; yn Rhyl, yn 1892, ar "Ddewi Sant." Y mae hefyd wedi ennill bedair gwaith ar Fyfyrdraeth—yn Llunden, yn 1887, ar y "Dysgybl Fardd ar Gadair Idris"; yn Aberhonddu, yn 1889, ar " Roger Williams"; ym Mangor, yn 1890, ar "Duw a ddywedodd 'Bydded"; ac yn Rhyl, 1892, ar "Yna y bydd y Diwedd"; ac yn Birkenhead, yn 1878, enillodd ar arwrgerdd, "Josuah."

Wele enwau'r cyfrolau a gyhoeddwyd ganddo:"Ymsonau," "Oriau yng Ngwlad Hud a Lledrith," 'Myfyrion," Breuddwydion y Dydd," a "Chofiannau Cyfiawnion"; ac yn ddiweddaf oll bu'n ysgrifennu Cofiant i'r Parch. Owen Thomas—cyfrol sydd