Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/220

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi ychwanegu at glod yr awdwr, a boddhad ei edmygwyr.

JONES, H. IVOR.—Brodor o Ddwygyfylchi, a adwaenir yn well heddyw wrth yr enw Penmaen Mawr. Symudodd, pan yn ieuanc, i Birkenhead i ddysgu crefft, a bu'n ei dilyn am flynyddoedd wedi gorffen ei brentisiaeth—tua 18 mlynedd i gyd. Yn ystod y cyfnod hwn gwnai ddefnydd helaeth o Ysgolion Hwyrol y dref honno a Lerpwl. Tra yn Birkenhead, dechreuodd bregethu, yn y flwyddyn 1877, a derbyniodd alwad yn 1880 oddi wrth eglwysi Nebo a Siloam, Capel Garmon, ac ordeiniwyd ef ym mis Mai y flwyddyn honno; oddi yno symudodd i Lanrwst—i'r Tabernacl—hen gapel "Scorpion." Yn 1886 derbyniodd alwad oddi wrth eglwys y Capel Coffa, Porthmadog, yn olynydd i'r Parch. Lewis Probert, D.D. Bu yma am dair blynedd ar ddeg, yn fugail doeth a llwyddiannus; ac y mae iddo air da ymhlith ei gydnabod o bob enwad yn y cylch. Yn niwedd Medi, 1899, symudodd, i gymeryd gofal eglwys yr Annibynwyr Cymrieg yn Albion Park, Caerlleon, lle'r erys hyd heddyw, yn fawr ei barch gan Gymry a Saeson y ddinas. Bu'n Llywydd Cyngor Eglwysi Rhyddion y ddinas, ac yn Llywydd Cymdeithas Cymry Caer. Bu hefyd yn Gadeirydd Cymanfa Dinbych a Fflint. Y mae wedi cyhoeddi rhai llyfrau poblogaidd, megis,—"Hanes Annibyniaeth, sef annerchiadau i'r Gymdeithas Ddiwylliadol yng Nghapel Coffa. Bu gwerthiant helaeth ar hwn, ac aeth trwy dri argraffiad. Ysgrifennodd hefyd, ar gais Pwyllgor Cymanfa Sir Gaernarfon, "Hanes Annibyniaeth Sir Gaernarfon hyd ddiwedd y 18fed Ganrif." Y mae wedi ysgrifennu llawer i'r Dysgedydd, y Diwygiwr, a'r Traethodydd. Bu hefyd yn dal swyddi o bwys yn ei enwad, megis Ysgrifennydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig am dair blynedd, ac Ysgrifennydd Cyfundeb Lleyn ac Eifionnydd am ddeng mlynedd. Efe oedd Cadeirydd cyntaf Cymdeithas Ddirwestol Undebol Lleyn ac Eifionnydd, ac ail etholwyd ef i'r un swydd y flwyddyn ddilynol; a bu'n Ysgrifennydd i'r Gym-