Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/221

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deithas am ddwy flynedd. Bu'n traddodi annerchiad yng Nghyfarfod Cyhoeddus yr Undeb yng Ngwrecsam, a Phregeth yr Undeb yn Ffestiniog.

JONES, THOMAS (Cynhaiarn).—Brodor o Bwllheli. Derbyniodd ei addysg mewn Ysgol Genedlaethol, a phreifat. Arfaethodd fyned yn bregethwr gyda'r Annibynwyr; ond rhoddodd y syniad hwnnw i fyny, gan fyned i wasanaeth Mr. John Humphreys Jones, cyfreithiwr, Pwllheli a Phorthmadog. Yn 1867 aeth drwy'r arholiad i fod yn dwrne. Yn 1886 penodwyd ef yn olynnydd i Mr. J. H. Jones, i'r swydd o Gofrestrydd (Registrar), Llys Mân—ddyledion Porthmadog. Y mae'n llenor coeth, yn fardd gwych, ac yn feirniad craff. Cyfansoddodd lawer pan yn ieuanc,darnau ysgafn a ffraeth yn bennaf. Ystyrir ei farwnad i "Wil Ellis" yn engraifft dda o'i allu, a diau y gallasai fod wedi cyfansoddi pethau gorchestol yn y cyfeiriad hwn pe cawsai'r ddawn chware teg. Rhyw ymyraeth yn unig y bu â'r awen ar hyd y blynyddoedd, ac ychydig a gystadleuodd. Bu'n fuddugol ar duchangerdd, "Y Llenleidr," yn Eisteddfod Genedlaethol Rhyl, 1892; ac anfonodd gywydd rhagorol ar "Yr Anffyddiwr" i Eisteddfod Bangor yn 1900. Bu'n ddisgybl i Ellis Owen, ac yn aelod o Gymdeithas Lenyddol Cefnymeusydd. Golygodd "Waith Barddonol Ioan Madog," a dengys ei fywgraffiad i'r bardd ei fod yn meddu ar ddawn y gwir lenor.


JONES, THOMAS.—Postfeistr, a llenor. Brodor o Langefni, lle y derbyniodd ei addysg ac y dechreuodd yng ngwasanaeth y Llythyrdy. Oddi yno symudodd i Birkenhead, gan esgyn o ris i ris yn ei safle. Derbyniodd benodiad i'r swydd o Bostfeistr i Ruthyn, Dyffryn Clwyd; ac yn ddilynol i Fachynlleth. Yn Chwefror, 1912, daeth i Borthmadog, yn olynydd i Mr. R. E. Thomas, oedd wedi symud i'r un swydd yn Wareham. Y mae'n Gymro selog, ac yn llenor gwych. Ennillodd wobr o ddeg gini yn Eisteddfod y Temlwyr Da, Lerpwl, 1897, ar "Lawlyfr Dirwestol," at wasanaeth Gobeith-