Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/223

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

athraw cerddorol (lleisiol) yn yr Ysgol Ganol—raddol, ac yn arweinydd y Gymdeithas Gorawl a'r Gerddorfa. O dan ei arweiniad y mae'r Gymdeithas wedi rhoddi perfformiadau, gyda cherddorfa lawn, o weithiau'r prif awduron, megis,—"May Queen (Bennett); "42nd Psalm " (Mendelssohn); "Ode to the Sea (Challinor); Elijah" (Mendelssohn); "The Messiah" a "Judas Maccabaeus (Handel); "The Creation" (Haydn); "The Last Judgment (Spohr), &c. Yn 1904 ennillodd y radd o F.R.C.O. Yn 1906 ymbriododd â Miss Anna Owen—chwaer Mr. J. R. Owen, Aelygarth. Yr un flwyddyn penodwyd ef yn organydd a chôr—feistr eglwys y Tabernacl, Aberystwyth, lle y llafuria gyda llwyddiant. Y mae wedi ennill amryw wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol am gyfansoddi—yn Llanelli yn 1903, a Rhyl, 1904; am chware'r organ ym Mlaenau Ffestiniog yn 1898; am chware "2nd Oboe" ym Mlaenau Ffestiniog, 1908, a Rhyl yn 1904. Y mae a fynno â Chyfarfodydd Llenyddol a Cherddorol Porthmadog er yn forefel cystadleuydd, cyfeilydd, a beirniad. Y mae wedi llenwi'r swydd o feirniad mewn cylchoedd pwysig eraill gyda llwyddiant ac anrhydedd. Ei brif gyfansoddiadau hyd yn hyn ydynt,—"The Skylark S.S.A. (cyhoeddedig gan Mri. Novello)—darn a fu'n gystadleuol yn Eisteddfod Llunden, 1909; "Clodforaf Di"—anthem fuddugol Eisteddfod Llanelli, 1903; Fantasia i'r organ ar "Aberystwyth"; Unawd, "Hwiangerdd Sul y Blodau," i lais Soprano (Orpheus Publishing Co.).—(Y Cerddor, Gorffennaf, 1912).

MORRICE, JAMES CORNELIUS.—Ysgolor, a llenor Cymraeg o nôd. Derbyniodd ei addysg yn Ysgolion Elfennol Porthmadog, o dan Mr. R. Grindley, a bu am gyfnod yn athraw yn yr ysgol honno, gan ddechreu fel monitor taledig ar yr 11eg o Ionawr, 1887. Aeth i Goleg y Brifysgol Bangor, lle y graddiodd yn B.A. gydag anrhydedd mewn Cymraeg yn y Dosbarth Cyntaf. Yn 1902 ennillodd y radd o M. A., am draethawd ar Wiliam Lleyn. Yn 1900 aeth i Ysgol Ddiwin-