Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/224

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yddol (Eglwysig) Bangor. Ordeiniwyd ef ym Mangor yn 1900 a 1901. Bu'n Gaplan i Wirfoddolwyr Caernarfon yn 1904; Curad Mallwyd, 1900—2; Treftraeth a Llangwyfan, 1902—3; Amlwch, 1903; Is—Ganon Eglwys Gadeiriol Bangor, 1903—7. Bu'n ysgrifennydd mygedol i Fwrdd Addysg y Ddeoniaeth, 1905—8; yn Gaplan i'r Clio, 1904—10; Curad Llandegfan, 1910. Yn y flwyddyn honno penodwyd ef i fywoliaeth Ffestiniog a Maentwrog. Yn 1909 cyhoeddodd "A Manual of Welsh Literature" (Jarvis & Foster), a golygodd "Farddoniaeth Wiliam Llŷn a'i Eirlyfr," gyda nodiadau (Jarvis & Foster).

MORRIS, JOHN JONES.—Mab i Mr. W. E. Morris un o "Enwogion Doe." Derbyniodd ei addysg yn Ysgolion Elfennol a Gramadegol y dref. Yn 1871 aeth i'r High School, yn y Liverpool Institute. Yn 1874 aeth i swyddfa Mri. Breese, Jones a Casson. Yn 1880 aeth trwy yr Arholiad Cyfreithiol terfynol, ac yn yr un flwyddyn agorodd y ffyrm gangen ym Mlaenau Ffestiniog, o dan ei ofal ef. Yn 1893 pennodwyd ef yn olynydd i Mr. David Homfray, fel Clerc i Ynadon Dosbarth Ardudwy swydd a leinw hyd heddyw. Y mae wedi cymeryd rhan flaenllaw gydag addysg bro'i febyd, ac wedi gweithredu ar y gwahanol fyrddau addysgolelfennol ac uwch—raddol. Yn 1895 etholwyd ef yn Gynghorwr Sir dros ranbarth orllewinol y dref; ac yn 1900 dewiswyd ef yn Gadeirydd y Cyngor. Y mae wedi cymeryd rhan amlwg yng ngweithrediadau'r Cyngor a Rhyddfrydiaeth y Sir. Bu'n aelod a Chadeirydd o Bwyllgor yr Heddlu. Yr oedd yn aelod o'r pwyllgor fu'n edrych i mewn i ymddygiadau'r Heddlu adeg Streic Bethesda, ac ymchwiliadau pwysig eraill. Y mae'n ymwelydd â Gwallgofdy Gogledd Cymru er 1898. Y mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Mânddaliadau'r Sir, a Pwyllgor Ysgol Amaethyddol Madryn. Yn 1908 gwnaed ef yn Henadur. Y mae'n Annibynwr selog o'i faboed,—yn aelod gwerthfawr yn Salem, ac yn noddwr ffyddlon i'r Ysgol Sul. Y mae wedi gwasanaethu ei enwad mewn cylchoedd lliosog—fel Cadeirydd