Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/225

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y Gymanfa Sir, y Cwrdd Chwarter, a rhai o gyfarfodydd Undeb yr Annibynwyr Cymreig. Y mae hefyd yn Gadeirydd Pwyllgor Cenhadol Gogledd Cymru.

MORRIS, ROBERT OWEN.—Bu'n egwyddorwas gyda Mr. Daniel Williams, Ivy House; ond gadawodd y cownter am y pwlpud. Bu yng Ngholeg y Bala, ac yn Edinburgh, lle y graddiodd yn M.A. Ymsefydlodd yn weinidog yn Nhrallwm; oddi yno symudodd i Lanelwy. Yno ymddiswyddodd o'i waith bugeiliol, gan fyned eilwaith i Edinburgh am gwrs meddygol, lle y graddiodd yn M.B. ac yn M.S. Ar ei ddychweliad o'r Alban, ymsefydlodd yn feddyg yn Birkenhead. Cymerodd ei M.D. yn 1902. Bu'n Faer y dref yn 1902—3; a bu'n llanw'r swydd o Feddyg yr Ysgolion. Yn 1905 cefnodd ar ei enwad crefyddol, gan ymuno âg Eglwys Loegr. Y flwyddyn hon derbyniodd y swydd o Brif Ddarlithydd Meddygol o dan yr Ymgyrch Cymreig yn erbyn y Darfodedigaeth.


NICHOLSON, W. J.—Un o bregethwyr mwyaf poblogaidd yr Annibynwyr, a mab i'r diweddar Barch. William Nicholson—yntau'n bregethwr o nôd. Ganwyd ef ym Mangor yn 1866, tra'r oedd ei dad yn Llanengan. Wedi cwblhau ei addysg elfennol mewn gwahanol leoedd, aeth i Ysgol Ramadegol Porthaethwy, at y Parch. E. Cynffig Davies, M.A., ac oddi yno i Goleg Aberhonddu. Ordeiniwyd ef yn Abertawe yn 1889. Symudodd i Borthmadog, yn fugail ar eglwys Salemhen eglwys Emrys a Dr. Probert—yn y flwyddyn 1892, lle'r erys yn olynydd teilwng iddynt.


OWEN, J. R.—Mab i'r diweddar Mr. Robert Owen, Rhiw, a brodor o Ffestiniog. Derbyniodd ei addysg yno, a chyda'r Parch. E. Cynffig Davies, M.A. Daeth i Borthmadog yn ieuanc, a bu am ysbaid yn swyddfa Foundry y Mri. Owen Isaac a Owen. Ar farwolaeth ei dad, cymerodd ei le yn bartner gyda Mr. John Lewis, fel llech—fasnachydd. Bu'n aelod o'r Bwrdd Addysg ac