olwg i'w unig fachgen—canwyll ei lygad, oedd bron yn ddall a byddar. Aethant i fyw i Dan y Manod, Rhostryfan. Yno bu farw ei fam, ar y 1af o Awst, 1886. Aeth y "chwaer fach" at ei nhain i Leyn, a chafodd yntau gartref yma ac acw hyd wanwyn 1887, pryd yr aeth i gartrefu at ei fodryb, chwaer ei dad, i Borthmadog. Yn ei adgofion yn Heddyw, Mawrth, 1897, dywed:
"Nis gwn pryd y dechreuis ganu; ond gwn mai colli fy nhad a'm gwnaeth yn fardd, ac mai colli fy mam a'm'hurddodd.' Cleddyf tanllyd profedigaeth oedd fy nghledd di-wain. O ymyl Gorsedd Angau y deuthum i'r byd, gan benderfynu barddoni."
Urddwyd ef gan Clwydfardd yn Eisteddfod Porthmadog, 1887. Y mae wedi ennill amryw gadeiriau a thlysau, ac y mae wedi cyhoeddi dau lyfr o farddoniaeth, sef Lloffion yr Amddifad," ac "Ar fin y Traeth."
"Prif nodwedd ei farddoniaeth yw dwysder,—nid dwysder pregethwr cyfiawnder yn unig, ond dwysder y gwir arlunydd hefyd. Nid yw prudd—der ei fywyd yn ei gân ond yn anaml; dwysder dedwydd gobaith sydd ynddi. Y mae hyawdledd pregethwr moesoldeb yn ei farddoniaeth."—O. M. Edwards.
WILLIAMS, JAMES EVAN.—Derbyniodd ei addysg yng Ngholeg Crist, Caergrawnt. Graddiodd yn B.A. yn 1890; M.A. yn 1900. Ordeinwyd ef ym Mangor yn 1891 ac 1892. Bu'n Gurad Llanbeblig (Caernarfon), 1891—4; Curad yr Esgobaeth yn 1894—6; Ficer Bont Ddu, 1896—1902; Ficer Ynyscynhaiarn, 1902—9; a Ficer Porthmadog, 1909. Bu'n ysgrifennydd mygedol Cyngrair yr Esgobaeth yn 1895, ac yn Ddeon gwledig Eifionnydd yn 1906.
WILLIAMS, J. HENRY.—Un o bregethwyr grymusaf y Methodistiaid heddyw. Brodor o Glwt y Bont, Arfon. Yno y derbyniodd ei addysg elfennol, ac y dechreuodd bregethu. Oddi yno aeth i Ysgol Clynnog, a bu yng Ngholegau y Bala a Bangor. Yn 1896 derbyniodd alwad i fugeilio eglwys y Methodistiaid ym