Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Mrymbo. Yn 1900 symudodd i Ddwyran, Môn; yn 1903 i Langefni; ac yn 1910 derbyniodd alwad i fod yn olynydd i'r Parch. J. J. Roberts (Iolo Caernarfon), yn y Tabernacl, Porthmadog. Dechreuodd ar ei weinidogaeth yno ar y 13eg o Fawrth. Yn 1906 cyhoeddodd lyfr—" Ar ei Ben bo'r Goron, sef annogaethau i bobl ieuanc yr eglwysi a dychweledigion y Diwygiad," a bu iddo ail argraffiad. (Cyhoeddedig gan Mri. Gee a'i Fab, Dinbych).