Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/30

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Blwyddyn Rhif y bobl
1801 • • • 525
1811 • • • 889
1821 • • • 885
1831 • • • 1075
1841 • • • 1888
1851 • • • 2347[1]


Gwelir cynnydd o 364 yn ystod y deng mlynedd cyntaf, a gellir priodoli hyn i ymdrechion Mr. Madocks yn sylfaenu Tremadog ac yn gwneud y Morglawdd. Tynnodd yr anturiaeth honno rai cannoedd o weithwyr i'r gymdogaeth, a bu raid adeiladu tai ar eu cyfer.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf y mae'r boblogaeth yn sefydlog, ac nid oeddis hyd yn hyn wedi manteisio fawr ar y gwelliantau. Lled araf hefyd a fu'r cynnydd o 1821 i 1831, oherwydd glynnu, y mae'n debyg, wrth yr hen ddulliau cyntefig o gludo'r llechi i gyrhaedd y llongau. Gwelir y cynnydd mawr yn ystod y deng mlynedd nesaf, sef y blynyddoedd cyntaf ar ol agor y Ffordd Haearn Gul o Ffestiniog, a phan ddechreuwyd adeiladu llongau. Y mae'r cynnydd o 1831 hyd 1841 dros wyth gant o nifer. Lliosogodd y boblogaeth drachefn o 1841 hyd 1851, ond nid mor gyflym o lawer a'r deng mlynedd cynt.

Bu adeiladu llongau yn rhan bwysig o waith a masnach Porthmadog, ond braidd yn araf fu cynnydd y diwydiant hwn ar y dechreu. Pa bryd y dechreuwyd adeiladu llongau yng nghyffiniau'r Traeth Mawr, a'r Traeth Bach, nid yw'n hysbys. Crybwyllir am Garreg-hylldrem, Minffordd, Ty Gwyn y Gamlas, Abergafren, Brothen, Aber Iâ, a Borth y Gest, fel mannau yr adeiladwyd llongau ynddynt. Ond y llong gyntaf a adeiladwyd ym Mhorthmadog oedd yr un a enwid Two Brothers. Adeiladwyd hi yn y flwyddyn 1824, gan Henry Jones. Casglaf, oddiwrth lythyrau Mr. Madocks, fod a wnelo yntau rhywbeth â hi; a'r flwyddyn ddilynol adeiladodd yr un gwr long bysgota i Mr. Madocks o'r enw Ermine. Bu gan Henry Jones ran flaenllaw yn y gangen hon o fasnach am flynyddoedd, ond ni welwyd llwyddiant amlwg hyd y flwyddyn

  1. O Adroddiad y Bwrdd Iechyd yn 1857.