Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1840, pryd yr eangodd y fasnach yn fawr. Wele restr o'r llongau a adeiladwyd ym Mhorthmadog o'r flwyddyn 1826 hyd 1839.

Enw. Flwyddyn. Tunelli.
Mary Ann 1826 15
Barmouth 1827 23
Lord Palmerston, Brig 1828 106
Hopewell 1828 27
Eleanor 1829 34
Pwllheli Packet 1830 20
Friends 1830 40
Four Brothers 1833 35
Dinas 1834 16
Eliza 1835 37
Williams 1835 37
Integrity 1836 66
Susanna 1836 16
Trader 1837 32
Gelert 1837 37
Eagle (Schooner) 1837 111
William 1838 90
Blue Vein 1838 79
Menai Packet 1838 48
Humility 1839 84
John and William 1839 18
Gwen 1839 85
William Alexander 1839 89


Wedi'r blynyddoedd hyn dechreuodd y fasnach gynhyddu'n gyflym, a deuwyd i adeiladu llongau mwy. Yn ystod yr amser hwn cyflogid oddeutu cant o weithwyr, ac yr oedd gwerth y llongau a orffennid yn flynyddol o ugain i bum mil ar hugain o bunnau. Gwneid y llongau'n gyffredin i gario o 120 i 160 o dunelli, gan y tybid mai llongau o'r maint hwn oedd y cymhwysaf at ofyn— ion y fasnach lechi; ond gwnaed rhai mwy ar gyfer porthladdoedd eraill. Cynhyddodd y fasnach mewn llongau yn raddol nes y cyrhaeddodd gwerth yr holl longau a berthynai i'r porthladd yn 1856 y swm £125,000. Perthynai yr eiddo gan mwyaf i weithwyr cyffredin y lle. Oherwydd llwyddiant mawr chwarelau Ffestiniog, daeth galwad am longau i gludo ymaith y llechi, a chan fod ym Mhorthmadog bob hwylusdod i'w hadeiladu, cynhyddodd yr eiddo mewn gwerth. Ar rai adegau ceid tua phump ar hugain y cant o lôg ar y cyfalaf. Am gyfnod lled faith cynhyddai'r eiddo mewn gwerth oddeutu £25,000 yn flynyddol. Gwasanaeth pennaf y llongau oedd cludo llechi i borthladdoedd y Cyfandir, eto dygid llwythi'n ôl ganddynt, gan ychwanegu'n fawr at gyfoeth masnachol y dref a'r porthladd. Y mae holl nifer y llongau a adeiladwyd