Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ym Mhorthmadog, er y flwyddyn 1824, at wasanaeth porthladdoedd cartrefol, yn 265. Gall y rhif hwn fod ychydig yn llai na'r rhif gwirioneddol, am fod 45 wedi eu tynnu ymaith ar gyfer y rhai a ail gofrestrwyd oherwydd rhyw gyfnewidiadau a wnaed yn y llongau hynny. Nid oes modd dweyd faint o longau a adeiladwyd i borthladdoedd tramor, y rhai na chofrestrwyd mohonynt ym Mhwllheli na Chaernarfon. Cynhwysa'r rhif uchod dair llong a adeiladwyd ym Mhorth y Gest.

Yn y flwyddyn 1841 sefydlwyd y Mutual Ship Insurance Society, trwy gymorth J. W. Greaves, Ysw., Tan'rallt, a Samuel Holland, Ysw., Plasymhenrhyn— y gyntaf o'i bath yng Ngogledd Cymru. Aeth ymlaen yn hwylus o'i chychwyniad, gan y gofelid am dani gan wyr medrus a chyfarwydd. Profir hyn gan y ffeithiau canlynol. Nid yw ei thal blynyddol ond 5¼ y cant ar gyfartaledd am yr ugain mlynedd diweddaf, tra y gofynir gan gwmniau yn Llunden a lleoedd eraill o 5 i7 y cant. Bu o wasanaeth mawr i'r fasnach mewn llongau, gan y gwneir trwyddi pob colled i fyny, a thrwy hynny roddi mwy o sefydlogrwydd i'r fasnach.

Yn 1880 yr oedd 137 o longau'n yswiriedig yn y Cwmni; yn 1890, 114; yn 1900, 102; yn 1912, 46.

Dengys y tabl canlynol y gofynion a fu ar yr aelodau am yr ugain mlynedd diweddaf, ac er fod y cyfalaf wedi disgyn i hanner yr hyn ydoedd yn 1892, y mae'r gofynion yn llawer llai.

Yn 1892 yr oedd y Cyfalaf £113,247 a'r gofynion yn 10 %.
Yn 1898 yr oedd y Cyfalaf £80,759 a'r gofynion yn 8 %.
Yn 1899 yr oedd y Cyfalaf £78,193 a'r gofynion yn 9 %.
Yn 1902 yr oedd y Cyfalaf £59,079 a'r gofynion yn 7 %.
Yn 1909 yr oedd y Cyfalaf £59,317 a'r gofynion yn 1%


Nid oes ar hyn o bryd ond dwy long yn perthyn i Borthmadog nad ydynt yn yswiriedig yn y Gymdeithas hon. Wele dabl eto'n dangos nifer y llongau, a gwerth yr eiddo:—