Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

rated to the relief of the poor upon the annual value of not less than £10. I am sir,
Your obedient servant,

ALFRED L. DICKENS, Superintending Inspector.

The Right Hon. W. Monsell, M.P.,

President General Board of Health.

Nid oes angen dweyd ychwaneg am gyflwr Porthmadog ar y pryd. Dengys yr adroddiad uchod fod y lle mewn cyflwr truenus, mor bell ag yr oedd darpariadau ar gyfer iechyd y trigolion a gweddeidd-dra cymdeithasol yn y cwestiwn. Ond er gwybod yn dda yr holl fanylion adgas hyn, hwyrfrydig iawn fu aelodau Festri'r Plwyf i fabwysiadu Deddf Iechyd. Dywedir i'r Festri a gynhaliwyd yn Eglwys Ynyscynhaiarn basio i wrthod myned o dan y ddeddf, ond ar eu ffordd allan o'r fynwent cyfarfyddwyd yr aelodau gan Mr. D. Williams, a hysbyswyd ef o'r penderfyniad y daethpwyd iddo. Ceisiodd yntau eu cymhell i ddod yn ol gydag ef i gael rhai o'u rhesymau, ac i ddadleu'r achos drosodd drachefn. Wedi peth petrusder, cytunwyd i ail agor y cwestiwn, a than ddylanwad geiriau Mr. Williams pasiwyd i ddiddymu'r penderfyniad cyntaf ac i sefydlu Bwrdd Iechyd Lleol dan y Public Health Act, 1848. Sefydlwyd y Local Board of Health ar y 9fed o Fawrth, 1858. Symudwyd ymlaen yn ddiymdroi i geisio'r gwelliantau a gymeradwyai yr adroddiad gyflwynasid i Fwrdd Iechyd y Llywodraeth; ond aeth blynyddoedd heibio cyn i gyfundrefn y carth-ffosydd ddod yn un effeithiol, a lled araf y buwyd cyn cael cyflawnder o ddwfr glân i'r lle. Yn 1871 ffurfiwyd Cwmni i ddod a hyn o gwmpas yn effeithiol, ond y tebyg yw na chafwyd boddlonrwydd hyd y flwyddyn 1880, pan basiwyd gweithred Seneddol i ffurfio cwmni newydd i ymgymeryd â holl gyfrifoldeb yr hen gwmni, ac i wneud darpariadau helaethach. Wele gopi o deitl y weithred Seneddol:—

Corfforiad Cwmni i gyflawni Porthmadog a lleoedd eraill â dwfr. Trosglwyddiad o gyfrifoldeb a galluoedd yr Hawlwyr dan y "Portmadoc Water Order" 1871 gan gyflwyno'r unrhyw i'r cwmni sydd i'w ffurfio. Cynhaliad y gwaith sy'n bod yn