Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr, ac adeiladu gwaith Dwfr newydd, Croni dwfr, Pryniad gorfodol tiroedd, Cyfalaf ychwanegol, Diddymiad y "Portmadoc Water Order" 1871, Corfforiad y Mesurau Seneddol a dibenion eraill."

Derbyniodd y gyfraith uchod y cydsyniad brenhinol ar yr ail o Awst, 1880, a derbynir yn awr gyflawnder o ddwfr o lyn Tecwyn, ac nid oes achos i gwyno mwy, oherwydd y cyflenwad a'r ansawdd.

Yn y flwyddyn 1855 gwnaed y darpariadau cyntaf i oleuo Porthmadog trwy ffurfio Gas Co., gyda chyfalaf o £3,500, a godwyd trwy gyfranddaliadau o £5 yr un; a goleuwyd yn rhannol yr heolydd â nwy mwnawl (mineral gas), a gynyrchid gan Mri. Holland & Co., Huddersfield, ar y draul o £28 yn flynyddol. Sicrheid yr arian i dalu'r treuliau trwy gyfraniadau cyhoeddus.

Dwy flynedd yn ddiweddarach, sef ar y 23ain o Fai, 1857, cafwyd tystysgrif corfforiad Cwmni Nwy Porthmadog (The Portmadoc Gas Co., Ltd.), dan y Joint Stock Companies Act, 1856. Cyfarwyddwyr cyntaf y Cwmni oeddynt y Mri. David Williams, Nathaniel Mathew, John Whitehead Greaves, Samuel Holland, Edward Windus Mathew, David Homfray, John Humphreys Jones, Robert Griffith, John Robert Griffith, William Evans Morris, William Lloyd, a Robert Isaac Jones. Caniatawyd prydles i'r Cwmni am 90 mlynedd, yn ol yr ardreth o bunt yn y flwyddyn, gan D. Williams, Ysw., dyddiad y brydles y 12fed o Dachwedd, 1861. Dan y "Gas Provisional Order," dyddiedig Ebrill, 1877, sicrhawyd y gwaith nwy oddiar "Y Cwmni Nwy Porthmadog gan y Bwrdd Lleol. Dyddiad y weithred yw'r 21ain o Ragfyr, 1877. Costiodd y Gwaith Nwy i'r Bwrdd Lleol y swm o £4,177. Cafwyd y "Provisional Order" newydd ar y 17eg o Ebrill, 1909, ac o dan hon sicrhawyd tir y Cwmni fel eiddo rhydd-ddaliadol.

Gellir ystyried y pethau a grybwyllir uchod fel pethau hanfodol i sicrhau iechyd trigolion Porthmadog, ac hebddynt yr oedd cynnydd gwirioneddol y dref mewn ystyr fasnachol a chymdeithasol bron yn amhosibl. Cafwyd gwelliantau eraill hefyd oeddynt yn hwylusdod