Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD III.

YR ENWADAU CREFYDDOL.

"Pa beth yw gwir werth cenedl, a'i nerthoedd?
Nid caerau, plasau, a gwymp lysoedd,
Neu lawer o fyddin luoedd,—cyfyd
Ei gwir fywyd o'i chysegrfaoedd.
—ISLWYN.


Yr Annibynwyr: Salem—Coffadwriaethol.
Y Wesleaid—Ebenezer.
Y Bedyddwyr: Seion—Berea—Sion (Chapel Street).
Y Methodistiaid: Y Garth—y Tabernacl—y Capel Seisnig.
Yr Eglwys Wladol: Eglwys Sant Ioan.


SALEM.

Dechreu'r Achos 1823
Adeiladu'r Capel 1827
Helaethwyd 1841
Ail-adeiladwyd 1860
Ai-gyweiriwyd 1899


Gweinidogion yr Eglwys.

 
Y Parch. Henry Rees 1831-2
Y Parch. Joseph Morris 1834-6
Y Parch. W. Ambrose 1837-73
Y Parch. L. Probert, D.D 1874-86
Y Parch. D. Glanant Davies 1887-91
Y Parch. W. J. Nicholson 1892


FEL yr oedd pwysigrwydd y porthladd yn cynhyddu, chwareli a mwngloddiau y cwmpasoedd yn cael eu dadblygu ac yn anfon eu cyfoeth i lawr iddo, amlhai y tai annedd yn y lle, a lliosogai y boblogaeth yn gyflym.

Methodistiaid oedd corph mawr y wlad o amgylch. Ychydig ac eiddil oedd rhif yr enwadau eraill y pryd hynny. Nid oedd gan yr Annibynwyr gapeli'n nes na Maentwrog, ar y naill law, a Rhoslan ar y llall. Tra'r oedd gan y Methodistiaid, erbyn gorffeniad y Morglawdd