CAPEL EBENEZER.
Dechreu'r Achos 1832
Adeiladu Capel 1840
Ail Adeiladu 1870
Gosod Oriel 1877
Adeiladu Ysgoldy 1894
Prynu Ty Gweinidog a'r Capel Cenhadol. 1902
Gosod Organ 1905
Gweinidogion Hanner Canrif.
Y Parch William Thomas 1862-5
Y Parch T G Pugh 1865-6
Y Parch Peter Jones 1866-8
Y Parch David Jones (Druison) 1868-71
Y Parch Robert Hughes 1872-3
Y Parch Richard Morgan 1874-6
Y Parch Griffith Jones 1878-9
Y Parch Wm Hugh Evans 1883-6
Y Parch R Lloyd Jones 1880-3
Y Parch Ishmael Evans 1886-9
Y Parch Henry Hughes 1889-92
Y Parch Hugh Owen 1890-3
Y Parch Owen Evans 1892-4
Y Parch R Mon Hughes 1896-9
Y Parch William Thomas 1895-6
Y Parch Edward Jones 1894-7
Y Parch Owen Evans 1897-1900
Y Parch J R Ellis 1900-3
Y Parch Edward Jones 1903-7
Y Parch R Mon Hughes 1907-10
Y Parch Owen Evans 1911-
Hyd y flwyddyn 1846, perthynai eglwys Porthmadog i Gylchdaith Pwllheli; o 1846 hyd 1879 i Gylchdaith yr Abermaw; o 1879 hyd 1898 perthynai i Gylchdaith Blaenau Ffestiniog.
Olrheinir dechreuad Wesleaeth yn Nyffryn Madog i Laethdŷ'r Wern, a drowyd yn addoldŷ yn y flwyddyn 1821, a lle y buwyd yn addoli hyd 1831. Rhifai'r aelodau'r pryd hynny ddeunaw-ar-hugain. Prif noddwyr yr achos yn y Wern oeddynt Gaenor, a Morris Owen, Mynydd Du. Yn y flwyddyn 1831 symudwyd o'r Wern i dŷ annedd ym Mhenmorfa; ond ni bu llawer o lwyddiant ar yr achos yno, yn bennaf, o herwydd fod yr ael-