odau a ddeuent o Borthmadog yn awyddus i gael lle i addoli yn nes adref, ac hefyd am fod Mr. Llewelyn, Llwynymafon, ac eraill, wedi adeiladu capel yng Ngholan. Ond byr fu cyfnod yr achos yng Ngholan hefyd, ac yn y flwyddyn 1863 gwerthwyd y capel i'r Methodistiaid Calfinaidd. Wedi aros ym Mhenmorfa am ysbaid blwyddyn, symudwyd drachefn i Borthmadog, i ystafell yng ngwaelod y Grisiau Mawr, ar y gornel dde fel yr eir i fyny. Pregethwyd gyntaf yno gan Mr. Edmund Evans, Talsarnau, yn y flwyddyn 1832. Ond ni bu i'r ddeadell ddinas barhau yno; a symudwyd oddiyno i "Gefn y London," lle yr addolid hyd nes y caed capel yn gartref arhosol. Dechreuwyd adeiladu y capel cyntaf i Wesleaeth ym Mhorthmadog yn y flwyddyn 1839. Ni weithredodd y brodyr yn hollol reolaidd gyda'r gwaith, yn gymaint ag iddynt ymgymeryd â'r gwaith heb ganiatad Pwyllgor Adeiladu yr enwad, a bu hynny'n achlysur i rai wrthod rhoddi eu cefnogaeth i'r mudiad ar y cychwyn. Gosodwyd y gwaith i adeiladydd o Gaernarfon am £250, ond oherwydd diofalwch gyda'r cymeriad, ac arolygiaeth y gwaith, aeth yr holl draul i £368. Cynhwysai'r addoldy 150 o eisteddleoedd. Y swyddogion cyntaf oeddynt:—Mr. Robert Owen, y Tinman, a Mr. Edmund Evans, Talsarnau; ynghyda dau flaenor, Mr. Owen Morris, Morfa Bychan, a Mr. Hugh Hughes, Saer. Gwasanaethid yr achos gan amryw o bregethwyr cynorthwyol, megis Humphrey Morris, Trawsfynydd; Edmund Evans; Richard Jones, Trawsfynydd; Evan Rees, Abermaw; Hugh Lloyd, Dyffryn; Edward Thomas, Tyddyndy, Dyffryn; a John Roberts, Blaenau Ffestiniog. Nid oedd achos Wesleaeth wedi ei godi eto ym Mlaenau Ffestiniog na Than y Grisiau. Y gydnabyddiaeth a dderbyniai'r cymwynaswyr hyn am eu gwasanaeth fyddai swm y casgliad a wneid ar y pryd,—heb ychwanegu ato, na thynnu oddiwrtho,—nac ychwaith ei gyfrif.
Er cael capel cyfleus a chysurus, ni bu ffawd yr achos ar ei gychwyniad yn ddymunol. Rhoddwyd ymddiriedaeth mewn personau anghymwys, yr hyn a fu'n