ANNERCH Y DARLLENNYDD.
ER pan agorais fy llygaid ar hanes Cymru, rhamantau'r Eryri a'm swynai fwyaf; ac wedi dyfod o honof i dueddau Dyffryn Madog, ni phallodd hudoliaeth y traddodiadau hen, ac ni chiliodd dyddordeb ei broydd oddi wrthyf. Hoffwn eu gwylio, a gwrandaw eu hanes; a phan welais Destynau "Cylchwyl Lenyddol a Cherddorol y Tabernacl, Porthmadog, Rhagfyr 25ain a'r 26ain, 1912," ac ynddynt y testyn dyddorol:—
"Braslinelliad o Hanes Porthmadog yn Gymdeithasol a Chrefyddol, ynghyd â'i phrif Gymeriadau er gorffenniad y Morglawdd 1811."
swynodd y testyn fi, a denodd fi'n fuan i fod yn gydymaith iddo am y tri mis dilynol. Crwydrais a holais lawer, chwilotais a darllennais fwy, ac nid arbedais lafur na thraul er cwblhau fy nghynllun; er hynny, nid yw mor berffaith ag y dymunwn iddo fod.
Bu'm yn pryderu peth pa reol i'w mabwysiadu gydag Enwogion Heddyw. Y mae ym Mhorthmadog wŷr rhy amlwg, mewn byd ac eglwys, a'u gwasanaeth i'w gwlad yn rhy fawr, i'w gadael allan. Y clawdd terfyn a godais i fyny gyda hyn o beth ydoedd Gweinidogion, Offeiriaid, Ynadon Heddwch, Cynghorwyr Sir, Awdwyr, a Phrif Athrawon. Er mabwysiadu'r rheol hon, gwn yn dda fy mod yn gadael allan enwau eraill sy'n glod i'r dref.
Y mae'r oll ag y derbyniais garedigrwydd oddiar eu llaw, yn rhy liosog i mi eu henwi yma, er fy mod yn dymuno diolch iddynt oll. Oherwydd fyrred yr amser i baratoi'r gwaith erbyn y gystadleuaeth,—tri mis prin gorfu imi ofyn i fy nghyfaill, y Parch. Morris Thomas, B.A., am gynhorthwy gyda'r ail bennod, yr hyn a gefais yn rhwydd. Dymunaf ddiolch hefyd, i Ellis W. Davies, Ysw., A.S., am ei garedigrwydd yn anfon imi grynhodeb o gyfreithiau Mr. Madocks; i Mr. John