Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/8

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Jones (Caerdyni) am lawer o fanylion oedd yn ei feddiant ef; i Mrs. Rowlands, Pen y Bryn, Penmorfa, am weled llythyrau Mr. Madocks at ei thaid, Mr. John Ethridge, ac am ryddid i wneud y defnydd a fynnwn o honynt; i Mr. Jonathan Davies, Y.H., a Mr. Robert Williams, Britania Foundry, am eu gwaith yn myned trwy'r MS., a'u hawgrymiadau arno; i Eifion Wyn am lawer o garedigrwydd tra'n perffeithio'r gwaith a'i baratoi i'r wasg: yn olaf, ac yn bennaf, i'r Pwyllgor am ymgymeryd â'r cyfrifoldeb o gyhoeddi'r Traethawd. Gwel y cyfarwydd, oddi wrth bris a diwyg y llyfr, mai nid gobaith am elw a'u cymhellodd i wneud hynny: a'm dymuniad i ydyw, na cholledir mo honynt; ac o bydd i tithau, ddarllennydd mwyn, gael gwerth dy brês o'r llyfr, ac o bydd i ti, a'th blant, deimlo rhywfaint elwach erddo, llawen fyddaf.

EDWARD DAVIES.

Penmorfa.
13: vi.: 13.