Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/73

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SEION, BONTYNYSGALCH.

Dechreu'r Achos .1838
Adeiladu'r Capel 1841
Ail-adeiladwyd 1868
Adgyweiriwyd 1894
Adeiladu'r Ysgoldy 1899


Gweinidogion yr Eglwys.

Y Parch. Richard Brown 1843-5
Y Parch. David Jones 1846-57
Y Parch. Richard Evans 1858-63
Y Parch. David Charles 1864-9
Y Parch. J. G. Jones 1870-9
Y Parch. W. Cynnon Evans 1881-5
Y Parch. Isaac James 1886-92
Y Parch. T. H. Price 1893-4
Y Parch. Owen Jones 1897—1903
Y Parch. E. M. Rowlands 1906—11
Y Pach. T. Basset 1913


"Byddai'n dda i chwi gymeryd ty i bregethu yn Nhrefadoc, a dyfod yno bob Saboth, neu ryw un arall, i gynyg yn deg i gael ychydig i uno mewn Cyfamod Eglwysig yno. Yr wyf yn eich hanog yn fawr i lafurio yn Nhrefadoc."—Christmas Evans mewn llythyr at R. Jones, Garn, Awst 12, 1836.

Fel y gwelir oddi wrth y dyfyniad uchod, y prif offeryn i sefydlu achos yr Hen Fedyddwyr yn Nyffryn Madog ydoedd y Parch. Christmas Evans. Amcan anfoniad y llythyr, oedd i longyfarch Mr. Robert Jones, Frondannwg, y Garn, ar ei ymuniad â'r Hen Fedyddwyr yn y Garn. Un o ddilynwyr J. R. Jones o Ramoth ydoedd Robert Jones, ond a oedd newydd gefnu arno. Addawai Christmas Evans, os y dechreuid achos, yr ymwelai yntau â'r lle i bregethu. Ond nid i Dremadog yr aeth Robert Jones, eithr i Borthmadog; ac nid ymwelodd Mr. Evans ychwaith â'r lle yn ol ei fwriad a'i addewid, gan iddo farw yng Ngorffennaf, 1838. Symudodd Robert Jones i fyw i Borthmadog yn fuan wedi iddo dderbyn y llythyr, a chafodd yn ebrwydd eraill i ymuno âg ef i gychwyn achos yn y lle. I'r diben hwnnw cymerasant lofft ym Mhen y Cei—lle sy'n awr yn sail room, uwch ben swyddfa Mri. Prichard a'i Frodyr. Erbyn y flwyddyn 1840 rhifai'r aelodau 21ain,