Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chant o wrandawyr. Wrth weled eu llafur yn llwyddo, symudwyd ymlaen i gael capel cysurus. prif symudydd gyda hyn ydoedd Mr. John Williams, Ynyshir,—lle a adwaenir yn awr wrth yr enw Bodawen. Efe a sicrhaodd y tir lle y saif y capel presennol arno. Cafodd brydles arno, yn ei enw ei hun, am gant ond un o flynyddoedd, am 10s. o ardreth. Arwyddwyd y cytundeb yn Hydref, 1841. Y flwyddyn ddilynol cyflwynodd Mr. Williams ei hawl i bedwar ar ddeg o ymddiriedolwyr, gan gynnwys ei hunan, am goron o iawndâl.

Costiodd y capel newydd £300, ac agorwyd ef ar y 5ed o Hydref, 1842. Pregethwyd yn y cyfarfod agoriadol gan y Parchn. John Evans, Bangor; Joel Jones, Pwllheli; R. Brown, Machynlleth; Rowland, Pentre Gilfach; Robert Jones, Llanllyfni; Iorwerth Glan Aled; R. D. Roberts, Llanberis; R. Morgan, Harlech; a Thomas Jones, Ffestiniog. Yn y flwyddyn ddilynol rhoddodd yr eglwys alwad i'r Parch. Richard Brown, Machynlleth, i ddyfod yn fugail arnynt. Er na fu Mr. Brown ym Mhorthmadog ond am ddwy flynedd, bu ei arhosiad byr yn symbyliad mawr i'r frawdoliaeth yn y cylch. Dyma pryd y dechreuwyd yr achos ym Mhenrhyndeudraeth. Cafodd y gweinidog ganiatad y Gymanfa i fyned trwy Fôn ac Arfon i gasglu ar ran yr eglwys. Yn 1845, symudodd Mr. Brown i Benybont, Llandysul. Y flwyddyn ddilynol daeth Dafydd Jones, Talsarnau, i gymeryd gofal yr eglwys. Ordeiniwyd ef yn 1847. Saer coed oedd Dafydd Jones wrth ei alwedigaeth, a gweithiai ei grefft ar ystâd y Glyn; ond deuai i bregethu i Borthmadog bob Sul. Dywedir nad oedd y gydnabyddiaeth a dderbyniai ond 10s. y mis!—prin ddigon i dalu am ei gwch i'w gludo'n ôl a blaen. Ni allesid disgwyl llawer o lwyddiant tra'r oedd y gweinidog yn llafurio'n yr wythnos mor bell oddi wrth ei eglwys. Ie, yr oedd Talsarnau ym mhell o Borthmadog y pryd hynny. Nid oedd bum mlynedd eto er pan adeiladwyd y capel—yr oedd y baich yn fawr, a'r eglwys yn fechan, a gofynai am egni parhaus i'w chadw rhag suddo. Yn wir, yr oedd talu'r llôg yn fwy