Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/75

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na'u gallu. Yr oedd yr amgylchiadau'n gyfryw fel ag y gorfu i'r Gymanfa ymyrryd, o herwydd dywedir fod dau neu dri o'r brodyr mewn perygl o gael gwerthu eu heiddo, i gyfarfod â dyled y capel; a gwnaeth y Parch. Robert Jones Llanllyfni, Eifionwyson, a Golygydd y Bedyddiwr, apêl ar eu rhan at Fedyddwyr Cymru, a chawsant atebiad caredig. Buont mewn gwirionedd yn gymorth wrth raid i'w brodyr ym Mhorthmadog, ac amlygasant hwythau eu gwerthfawrogiad o hynny trwy gyflwyno i Robert Jones "bâr o hosanau cochddu' rhodd ag oedd yn dangos gwir deimlad ac ysbryd yr eglwys yn llawer gwell nag y gwnai papur canpunt heddyw. Y mae'r "pâr hosanau" yn siarad cyfrolau. Ar ymadawiad Dafydd Jones, daeth y Parch. Richard Evans yn olynydd iddo yn 1858. Brodor o Fôn oedd efe, a chrydd wrth ei alwedigaeth; ond yr oedd ar y pryd yn Athrofa Hwlffordd. Bu peth amryfusedd yn ei amser yntau ynglyn â sefyllfa ariannol yr eglwys. Penododd y Gymanfa bwyllgor i chwilio i mewn i'r mater, ond ychydig a fu llwyddiant honno, hyd nes yr ymgymerodd Mr. John Parry, Tanner, âg ef, trwy gasglu a chyfrannu'n helaeth i gyfarfod â'r gofyn. Yn 1863 ymadawodd Mr. Evans, a galwyd ar David Charles, brodor o Lanelli, i fod yn olynydd iddo—gwr o alluoedd amlwg, yn meddu ar brif nodweddion bugail a phregethwr llwyddiannus. Dechreuodd ef ar ei waith yn 1864. Yr oedd amgylchiadau ariannol yr eglwys erbyn ei ddyfodiad ef yn llawer gwell. Nid oedd ond hanner canpunt o ddyled yn aros. Ond yr oedd sefyllfa'r capel yn gyfryw ag oedd yn galw am eu sylw. Angenrhaid oedd ei helaethu, neu godi un newydd. Cafwyd caniatad y Gymanfa, ac aed ymlaen gyda'r gwaith o adeiladu un newydd, a phenodwyd pwyllgor i ofalu am y gwaith. Cyn dechreu adeiladu, penderfynwyd talu dyled yr hen un yn gyntaf. Gosodwyd y gwaith o gynllunio ac adeiladu'r capel newydd i Mr. O. M. Roberts, Porthmadog; a phenodwyd Mr. Richard Parry, y Garn, i fod yn arolygwr ar y gwaith. Pris y cymeriad ydoedd £750, ond yr oedd hanner canpunt o extras. Agorwyd y capel newydd ar y 15fed o Ebrill,