Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Hanes Porthmadog ei Chrefydd a'i henwogion.djvu/76

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

1869. Bu farw Mr. Charles ymhen pum mis wedi agor y capel, sef ar y 14eg o Fedi. Ym mis Mai, 1870, daeth y Parch. J. G. Jones, Llanllyfni, yn fugail ar yr eglwys. Yn ei amser ef yr adeiladwyd y tŷ capel, gan Mr. Owen Jones; yr oedd yr holl draul ynglyn âg ef yn £217. Un o garedigion pennaf y cyfnod yma ydoedd diweddar Thomas Parry, masnachydd coed. Cyfrannai yn helaeth, a rhoddod symiau anrhydeddus i dalu'r gwahanol ddyledion. Ymadawodd y Parch. J. G. Jones ar y 12fed o Hydret, 1879, i gymeryd gofal yr eglwys ym Mhenrhyndeudraeth. Dilynwyd ef gan y cerddor adnabyddus, Mr. W. Cynnon Evans o Faesteg, oedd ar y pryd yng Ngholeg Llangollen. Ordeiniwyd ef yn Seion, Porthmadog, ar y 24ain o Awst, 1881. Byr fu arhosiad Mr. Evans; ymadawodd ym Mehefin, 1885. Olynwyd ef yn 1886 gan Mr. Isaac James, yntau hefyd yn fyfyriwr o Goleg Llangollen, a bu yn llafurio'n ddiwyd ac yn fawr ei barch am chwe blynedd. Yn 1893 rhoddwyd galwad i'r Parch. T. H. Price; ond bu efe farw ar y 26ain o Ionawr, 1894.

Bu'r eglwys, ar ol marw Mr. Price, am bedair blynedd heb fugail arni; ond eto nid yn ddiwaith na diynni. Yn ystod y cyfnod hwn, aed i'r draul o ganpunt i adgyweirio'r capel, a thalwyd deucant o'r ddyled. Yn Ionawr, 1896, daeth y Parch. Owen Jones, Llanddoget, i ofalu am yr eglwys. Yn ei amser ef yr adeiladwyd yr ysgoldy (a gostiodd tua £70), a chydweithiodd yr eglwys yn rhagorol âg ef. Ymadawodd yn 1903. 1903. Ym Mehefin 17eg, 1907, prynwyd y brydles am £46. Yn 1906 rhoddwyd galwad i'r Parch. T. Basset, brodor o Lwynhendy, oedd ar y pryd yn fyfyriwr yng Ngholeg Bangor. Ordeiniwyd ef ym Mehefin, 1906. Wedi ei ddyfodiad ef, anrhegodd Mr. Thomas Parry (ŵyr i'r T. Parry a enwyd), yr eglwys âg organ hardd er côf am ei rieni ffyddlon. Ni bu ar Seion weinidog ffyddlonach, amwy ymroddedig na Mr. Basset. Pan yr ymgymerodd efe â'r eglwys yr oedd y ddyled yn £272 10s.; ond ar y 26ain o Ragfyr, 1911, gwelodd yr eglwys dalu'r ugain punt diweddaf ohoni, yn bennaf drwy lafur diildio ei gweinidog. Yn niwedd y flwyddyn 1911 am-